Mae pedwar newid yn nhîm rygbi merched Cymru i herio Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Cork ddydd Sadwrn (4.45yp).
Hon yw trydedd gêm y merched yn y twrnament, ac maen nhw’n dal heb fuddugoliaeth.
Hannah Jones fydd yn arwain y tîm o ganol cae, gan bartneru Kerin Lake, gyda Jaz Joyce yn dychwelyd ar yr asgell.
Jenny Hesketh a Carys Cox sy’n cwblhau’r triawd yn y cefn.
Daw Keira Bevan yn ôl yn safle’r mewnwr yn dilyn ei chais yn erbyn Lloegr, gan gadw cwmni i’r maswr Lleucu George ymhlith yr haneri.
Sisilia Tuipulotu, Carys Phillips a Gwenllian Pyrs fydd yn y rheng flaen, gydag Abbie Fleming a Georgia Evans y tu ôl iddyn nhw yn yr ail reng.
Alex Callender, Alisha Butchers a Bethan Lewis sy’n cwblhau’r pac o’r rheng ôl.
Mae wyneb newydd, Gwennan Hopkins, ar y fainc ac mae Ioan Cunningham yn dweud ei bod hi’n “llwyr haeddu ei chyfle”, gan ychwanegu bod y garfan wedi bod yn ceisio dehongli lle maen nhw arni yn y twrnament hyd yma.
Dywed fod angen iddyn nhw fod yn “fwy clinigol”, a bod cael Jaz Joyce yn ôl yn y garfan yn “hwb gwirioneddol”.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd Iwerddon adref yn her wirioneddol, ond yn un rydyn ni’n edrych ymlaen ati, ac rydyn ni’n benderfynol o greu perfformiad i bawb fod yn falch ohono.”
Tîm Cymru
Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Hannah Jones (Capten), Kerin Lake, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Alisha Butchers, Alex Callender, Bethan Lewis.
Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Natalia John, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Kayleigh Powell, Courtney Keight.