Mae Darren Thomas, cyn-brif hyfforddwr tîm criced Siroedd Cenedlaethol Cymru, wedi’i benodi i’r un rôl gyda thîm cenedlaethol merched Jersey.
Bu wrth y llyw am unarddeg o flynyddoedd gyda’r tîm Cymreig, cyn ymddiswyddo ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Treuliodd e ddegawd yn chwaraewr proffesiynol fel bowliwr cyflym gyda Morgannwg ac Essex cyn camu i’r byd hyfforddi.
Mae e hefyd wedi hyfforddi tîm merched Western Storm a thîm Academi Morgannwg.
Uchelgais
Yn ôl Paul Hutchison, Cyfarwyddwr Criced dros dro Jersey, mae gan yr ynys gryn uchelgais i dyfu’r gamp yno.
“Ted [Darren Thomas] yw darn cynta’r jig-so,” meddai.
“Mae Ted yn uchel iawn ei barch ac yn brofiadol iawn, a dw i’n eithriadol o hyderus y bydd y chwaraewyr yn datblygu’n dda o dan ei arweiniad.”
‘Y gefnogaeth orau bosib’
“Ers ymuno, dw i wedi bod yn glir fy mod i eisiau i’n menywod a’n merched gael y lefel orau bosib o gefnogaeth o ran hyfforddiant, a phob cyfle i wireddu eu potensial,” meddai Sarah Gomersall, Prif Weithredwr Criced Jersey.
“Dw i’n credu y bydd penodiad Ted yn Brif Hyfforddwr yn gwneud hyn.
“Bellach, mae gennym ni dîm hyfforddi cryf iawn i allu gweithio ar draws criced menywod, dynion, merched a bechgyn, ac mae gennym ni ddyfodol cyffrous iawn.”