Mae prif hyfforddwr tîm Cymru dan 20, Jason Strange, wedi cyhoeddi tri newid yn y tîm i herio’r Alban ar Barc Eirias ym Mae Colwyn nos Wener.
Mae’r clo Adam Beard (Gweilch), y maswr Jarrod Evans (Gleision) a’r canolwr Owen Watkin (Gweilch) wedi cael dychwelyd i’w rhanbarthau ar gyfer gemau’r Pro12.
Bydd y Gweilch yn teithio i Munster a’r Gleision yn teithio i Benetton Treviso.
Tri newydd
Daw Joe Thomas (Gweilch), Reuben Morgan-Williams (Gweilch) a Bryce Morgan (Dreigiau) i mewn i’r garfan yn eu lle.
Mae Harri Millard yn symud i rif 12 ac fe fydd Joe Thomas yn gwisgo rhif 13.
Un sy’n sicr o’i le yw’r Cofi Rhun Williams, 18, sy’n dechrau yn safle’r cefnwr.
Bydd y garfan yn gobeithio adeiladu ar eu buddugoliaeth o 35-24 dros Iwerddon yn Donnybrook yr wythnos diwethaf.
Llwyfan wedi’i osod
“Rydyn ni’n falch iawn gyda’n perfformiad yn erbyn Iwerddon,” meddai’r prif hyfforddwr, Jason Strange.
“Mae sgorio pedwar cais oddi cartref yn cynnig llwyfan i adeiladu arno ac rydym am barhau i fod yn ymosodol y penwythnos hwn.
“Roedd yr Alban yn wych y penwythnos diwethaf felly dydyn ni ddim yn twyllo’n hunain ynghylch y dasg sydd o’n blaenau.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Eirias, rydyn ni bob amser yn cael croeso gwych yno ac fe fydd y dorf yn sicr o roi hwb i’r chwaraewyr.”
Tîm Cymru: Rhun Williams (Rygbi Gogledd Cymru); Elis-Wyn Benham (Y Gleision), Joe Thomas (Y Gweilch), Harri Millard (Y Gleision), Keelan Giles (Y Gweilch); Dan Jones (Y Scarlets), Reuben Morgan-Williams (Y Gweilch); Corey Domachowski (Y Gleision), Dafydd Hughes (Y Scarlets), Dillon Lewis (Y Gleision), Shane Lewis-Hughes (Y Gleision), Bryce Morgan (Y Dreigiau), Tom Phillips (capten, Y Scarlets), Shaun Evans (Y Scarlets), Harrison Keddie (Y Dreigiau)
Eilyddion: Ifan Phillips (Y Scarlets), Robert Lewis (Y Gleision), Leon Brown (Y Dreigiau), James Ratti (Y Gweilch), Morgan Sieniawski (Y Gleision), Declan Smith (Y Scarlets), Billy McBryde (Y Scarlets), Joe Gage (Y Gweilch)