Ki Sung-yeung (llun: David Davies/PA)
Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Ki Sung-Yueng, wedi dweud ei fod yn holliach ar ôl dioddef cyfergyd yn ystod y gêm Uwch Gynghrair oddi cartref yn West Brom yr wythnos diwethaf.
Cafodd Ki ei gludo oddi ar y cae ar wastad ei gefn ar ôl taro’i ben yn erbyn pen ei wrthwynebydd, Stephane Sessegnon yn y gêm a orffennodd yn gyfartal 1-1.
Dywedodd y chwaraewr o Dde Corea ei fod e wedi treulio deuddydd ag iâ ar ei wyneb yn dilyn yr ergyd.
Fe fu’n rhaid iddo orffwys am chwe diwrnod yn unol â rheolau cyfergyd yr Uwch Gynghrair, oedd yn golygu nad oedd e ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn Crystal Palace yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn diwethaf.
Pendro
Mae cyfergydion wedi bod yn y penawdau yn aml yn ddiweddar yng nghyd-destun rygbi, ond mae gan bêl-droed hefyd ganllawiau bellach i ddelio ag anafiadau o’r fath.
“Ro’n i’n teimlo’r bendro ar ôl y gêm ac roedd gen i gur pen am ychydig ddiwrnodau, ond rwy’n teimlo’n dda erbyn hyn,” meddai Ki wrth wefan yr Elyrch.
“Wnes i drio atal ei ergyd ac fe daron ni yn erbyn ein gilydd – doedd e’n sicr ddim yn fwriadol.
“Fe ges i orffwys am ychydig ddiwrnodau ac roedd gen i iâ ar fy wyneb am ddeuddydd, ond rwy’n ymarfer unwaith eto ac yn barod i chwarae’r penwythnos hwn.”
‘Tri phwynt hollbwysig’
Mae’r Elyrch, sydd bedwar pwynt uwchben y safleoedd disgyn, yn croesawu Southampton i’r Liberty ddydd Sadwrn.
Mae sicrhau’r tri phwynt yn hollbwysig i wŷr Francesco Guidolin, sydd wedi cael pum pwynt yn ei dair gêm gyntaf wrth y llyw.
“Mae’n gêm fawr i ni oherwydd fe ddylen ni fod wedi ennill y ddwy gêm ddiwethaf,” ychwanegodd Ki.
“Ry’n ni’n gwybod y byddai triphwynt yn hwb anferth i ni. Mae gemau cartref yn hollbwysig.”