Chris Coleman, rheolwr tîm Cymru (llun: CBDC)
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau bellach y byddan nhw’n wynebu Sweden mewn gêm gyfeillgar yn Stockholm ar 5 Mehefin eleni.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae chwe diwrnod yn unig cyn gornest agoriadol Cymru yn Ewro 2016 yn erbyn Slofacia yn Bordeaux.
Mae’n debyg mai’r trip i Sweden fydd yr unig gêm baratoadol mae tîm Chris Coleman yn bwriadu ei chwarae cyn iddyn nhw deithio i’r twrnament yn Ffrainc ym mis Mehefin.
Dywedodd CBDC fod y tîm yn bwriadu hedfan yn syth o Sweden i’w gwersyll Ewro 2016 yn Dinard, Llydaw, ble byddan nhw’n paratoi ar gyfer y gystadleuaeth.
‘Gwrthwynebwyr perffaith’
Bydd Cymru hefyd yn herio Gogledd Iwerddon ar 24 Mawrth a’r Wcráin ar 28 Mawrth fel rhan o’u paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth yn Ffrainc pan fyddan nhw’n wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp.
“Mae Sweden yn dîm llawn gallu a phrofiad sydd wedi bod yn cyrraedd cystadlaethau rhyngwladol yn gyson dros y blynyddoedd,” meddai rheolwr Cymru Chris Coleman.
“Fe fyddan nhw’n wrthwynebwyr perffaith mewn stadiwm wych.”
Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i Gymdeithas Bêl-droed Cymru, wrth gefnogwyr clywed canlyniad eu ceisiadau ar gyfer tocynnau Ewro 2016.