Altrincham 1–1 Wrecsam
Wnaeth pethau ddim altro yn Altrincham i Wrecsam nos Fawrth wrth i’w rhediad siomedig yn y Gynghrair Genedlaethol barhau gyda gêm gyfartal arall.
Mae’r Dreigiau bellach heb ennill mewn pedair gêm gynghrair ar ôl rhannu’r pwyntiau ar Moss Lane.
Rhoddodd Josh Ginnelly’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Ryan Crowther wedi dim ond deg munud.
Roedd yr ymwelwyr o ogledd Cymru yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i beniad Simon Heslop o groesiad Kayden Jackson chwarter awr cyn yr hanner.
Wrecsam a gafodd y gorau o’r gêm yn yr ail gyfnod hefyd ond er iddynt reoli’r meddiant, gwastraffodd Robbie Evans, Blaine Hudson a Connor Jennings gyfleoedd i’w hennill hi i’r Dreigiau.
Gyda thri phwynt o’r deuddeg posibl diwethaf, mae Wrecsam yn aros yn ddeuddegfed, bedwar pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.
.
Altrincham
Tîm: Deasy, Sinnott, Ginnelly, Holness, Leather, Griffin, Moult, Richman, Margetts, Rankine, Crowther (Mottley-Henry 84’)
Gôl: Ginnelly 11’
Cardiau Melyn: Crowther 21’, Richman 42’
.
Wrecsam
Tîm: Taylor, Carrington, Fyfield, Newton, Smith, Moke (Beck 62’), Hudson, Evans, Jackson, Jennings, Heslop
Gôl: Heslop 29’
Cerdyn Melyn: Fyfield 15’
.
Torf: 1,261