Mae mewnwr y Scarlets Rhodri Williams wedi cyhoeddi y bydd yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd y tymor ac yn symud i Fryste.
Dywedodd y chwaraewr 22 oed ei fod wedi arwyddo’r cytundeb dwy flynedd â’r clwb o Loegr er mwyn gallu chwarae’n fwy rheolaidd.
Ond fe allai croesi’r ffin olygu bod y mewnwr, sydd â thri chap dros Gymru, yn cau’r drws ar ei obeithion o chwarae dros ei wlad am y tro.
“Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r Scarlets yn ystod fy nghyfnod i yma,” meddai Rhodri Williams.
“Mae’n glwb gwych a fi wedi mwynhau pob munud ac wedi gwneud ffrindiau oes. Fe fyddai’n parhau i roi popeth i’r Scarlets wrth i ni geisio sicrhau ein lle yn y pedwar uchaf yn y Pro12.”
Tri mewnwr o Gymru
Daw cyhoeddiad Rhodri Williams llai nag wythnos ers i fewnwr arall o Gymru, Martin Roberts, symud i Fryste o’r Gweilch.
Mae mewnwr dewis cyntaf Bryste ar hyn o bryd, cyn-chwaraewr y Scarlets a Chymru Dwayne Peel, yn parhau i wella o anaf i’w ysgwydd ar hyn o bryd.
Serch hynny, mae’n debyg bod Rhodri Williams wedi penderfynu ei fod yn fwy tebygol o gael mwy o amser ar y cae yn Lloegr.
“Rydyn ni’n siomedig i weld Rhodri’n gadael y rhanbarth ond yn deall ei awch i chwarae rygbi rheolaidd. Rydyn ni’n dymuno’n dda iddo ym Mryste,” meddai Rheolwr Cyffredinol Rygbi’r Scarlets, Jon Daniels.