Sam Vokes yn dathlu ei gôl i Burnley (llun: John Walton/PA)
Cwpan yr FA oedd yn denu’r sylw’r wythnos hon, ac fe rwydodd dau o ymosodwyr Cymru wrth iddyn nhw barhau i geisio gwneud eu marc dros y misoedd nesaf yn arwain at Ewro 2016.

Cafodd Aaron Ramsey brynhawn rhydd gan Arsenal wrth iddyn nhw drechu Burnley gartref o 2-1, ond fe roddodd Sam Vokes obaith i’r Clarets gyda pheniad gwych i unioni’r sgôr yn yr hanner cyntaf.

Rhwydodd Hal Robson-Kanu gôl gyntaf Reading hefyd wrth i’w dîm o a Chris Gunter ennill o 4-0 yn erbyn Tom Bradshaw a Walsall.

Daeth y gôl o dafliad gan Gunter, gyda Robson-Kanu’n troi ei ddyn yn wych cyn tanio’i ergyd i dop y rhwyd, ac fe gyfunodd y ddau eto i greu gôl olaf y Royals i Matej Vydra.

Roedd Joe Allen yn gapten ar dîm ifanc Lerpwl wrth iddyn nhw gael canlyniad di-sgôr yn erbyn West Ham, gêm ble cafodd Danny Ward a James Collins eu gadael ar feinciau eu timau.

Siomedig oedd prynhawn Joe Walsh yn amddiffyn MK Dons wrth iddyn nhw golli 5-1 yn erbyn Chelsea, gydag ymddangosiad Jonny Williams oddi ar y fainc am y 23 munud olaf ddim yn ddigon i newid llif yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth.

Rhwydodd Ben Davies i’w gôl ei hun wrth i Spurs drechu Colchester o 4-1, ond allai o ddim bod wedi gwneud llawer i atal y peth wrth i ergydiad adlamu nôl o’r postyn a tharo ei goes.

Cadwodd Wayne Hennessey lechen lân wrth i Crystal Palace guro Stoke o 1-0 i sicrhau lle yn y rownd nesaf, gyda Joe Ledley yn dechrau’r gêm ond yn cael ei eilyddio ar yr egwyl.

Uchafbwyntiau gêm Arsenal v Burnley, gan gynnwys gôl Vokes:

Yng ngêm gyntaf David Vaughan nôl ers gwaharddiad roedd Nottingham Forest yn anlwcus i golli 1-0 yn erbyn Watford, ac roedd Shaun Macdonald hefyd yn nhîm Bournemouth wrth iddyn nhw drechu Portsmouth yn y ddarbi leol.

Lewis Price oedd yn y gôl i Sheffield Wednesday wrth iddyn nhw ddioddef sioc y bedwaredd rownd, gyda’r Amwythig yn sgorio dwy gôl hwyr i ennill o 3-2 ar ôl dod ag eilydd ymosodol ymlaen yn lle’r amddiffynnwr Dominic Smith.

Daeth Tom Lawrence oddi ar y fainc i Blackburn wrth iddyn nhw drechu Rhydychen o 3-0, gyda’r Cymro ifanc Jordan Evans sydd ar fenthyg o Fulham hefyd yn ymddangos fel eilydd i’r gwrthwynebwyr.

Gwylio o’r fainc unwaith eto oedd James Chester fodd bynnag wrth i West Brom gael gêm gyfartal o 2-2 â Peterborough, gyda sôn y gallai adael yr Hawthorns cyn i’r ffenestr drosglwyddo gau heddiw.

Y Bencampwriaeth

Oherwydd Cwpan yr FA dim ond tair gêm gafodd ei chwarae yn y Bencampwriaeth dros y penwythnos, gyda Wes Burns yn ymddangos fel eilydd wrth i’r gêm rhwng Bristol City a Birmingham orffen yn ddi-sgôr.

Roedd pryder i Emyr Huws fodd bynnag wrth i chwaraewr canol cae Huddersfield adael y maes ar ôl awr o’r ornest yn erbyn Caerdydd ar ôl anafu’i ffêr.

Colli oedd hanes ei dîm o a Joel Lynch, ond fe fydd cefnogwyr Cymru’n gobeithio na fydd Huws yn wynebu cyfnod rhy hir ar yr ystlys wrth iddo aros i glywed beth fydd gan y tîm meddygol i’w ddweud.

Ac fe chwaraeodd Morgan Fox gêm lawn wrth i Charlton sicrhau buddugoliaeth brin o 4-1 i ffwrdd yn Rotherham.

I orffen, daeth newyddion da o Fadrid gyda disgwyl y bydd Gareth Bale wedi gwella o anaf i groth ei goes ymhen rhyw wythnos, nid bod ei angen arno ar Real y penwythnos yma wrth iddyn nhw roi cweir o 6-0 i Espanyol.

Seren yr wythnos – Sam Vokes. Peniad gwych i gael y gorau o amddiffynwyr Arsenal a rhoi gobaith i’w dîm.

Siom yr wythnos – Danny Ward. Byddai wedi bod yn dda gweld y golwr ifanc yn cael cyfle gan Lerpwl, yn enwedig gan fod Jurgen Klopp wedi dewis sawl chwaraewr amhrofiadol arall.