Gleision 10–3 Caeredin
Roedd un cais cynnar yn ddigon i’r Gleision wrth iddynt guro Caeredin ar Barc yr Arfau yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.
Cafodd y tîm cartref y dechrau perffaith wrth i Dan Fish groesi am gais yn y munud cyntaf.
Llwyddodd Rhys Patchell gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic cosb i ymestyn y fantais i ddeg pwynt wedi chwarter awr.
Cic gosb Nathan Fowles hanner ffordd trwy’r hanner oedd pwyntiau cyntaf yr ymwelwr ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser, 10-3 y sgôr.
Chwaraeodd yr Albanwyr ddeg munud gyda phedwar dyn ar ddeg hanner ffordd trwy’r ail hanner yn dilyn cerdyn melyn i’r prop, Rory Sutherland, ond methodd y Gleision fanteisio trwy ychwanegu at y sgôr.
Wnaeth hynny ddim gwahaniaeth yn y diwedd wrth i’r Gleision ddal eu gafael ar y saith pwynt o fantais i ennill y gêm, 10-3.
Mae’r canlyniad yn codi’r Gleision i’r wythfed safle yn nhabl y Pro12.
.
Gleision
Cais: Dan Fish 1’
Trosiad: Rhys Patchell 2’
Cic Gosb: Rhys Patchell 15’
.
Caeredin
Cic Gosb: Nathan Fowles 21’
Cerdyn Melyn: Rory Sutherland 55’