Llandudno 1–1 Airbus
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i drydydd herio pedwerydd yn Uwch Gynghrair Cymru nos Sadwrn.
Llandudno oedd yn drydydd cyn iddynt groesawu Airbus i Faesdu ac felly yr arhosodd pethau wedi gêm glos.
Aeth Airbus ar y blaen wedi dim ond wyth munud pan grymanodd cic gornel Jordan Barrow yn syth i’r gôl!
Yr ymwelwyr a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf wedi hynny hefyd ond Llandudno a ddaeth agosaf at sgorio pan wyrodd yr ymosodwr newydd, Jamie Reed, groesiad Lee Thomas fodfeddi heibio’r postyn.
Os oedd Airbus fymryn well tîm yn yr hanner cyntaf, Llandudno oedd y tîm gorau o’r bell wedi’r egwyl.
Wedi dweud hynny, roedd y gôl a ddaeth â hwy’n gyfartal wedi pum munud yn un ddadleuol iawn. Daeth cic gôl hir Dave Roberts o hyd i Thomas yn y cwrt cosbi a churodd yntau James Coates cyn rhwydo i gôl wag er ei bod hi’n ymddangos iddo gicio’r bêl o ddwylo golwr Airbus.
Roedd Coates yn ei chanol hi eto wrth i Landudno wthio am gôl arall. Gwnaeth arbediad dwbl da i atal Marc Williams a Thomas i ddechrau, cyn gwneud arbediad dwbl arall i rwystro Gareth Evans a Reed ychydig funudau’n ddiweddarach.
Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn y tabl, wrth i Landudno aros yn drydydd ac Airbus yn bedwerydd.
.
Llandudno
Tîm: Roberts, Taylor, Shaw, Mike Williams, Joyce, Hughes, Dix, Thomas, Marc Williams, Riley (Evans 46’), Reed (Buckley 80’)
Gôl: Thomas 50’
Cardiau Melyn: Dix 35’, Thomas 70’
.
Airbus
Tîm: Coates, Owen (Monterio 27’), Pearson, Kearney, Jackson, Williams, Barrow, Murphy (Riley 70’), Gray, Wade, Jones (Fraughan 80’)
Gôl: Barrow 8’
Cardiau Melyn: Kearney 41’, Williams 84’
.
Torf: 255