Eastleigh 1–1 Wrecsam
Bu rhaid i Wrecsam fodloni ar gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Eastleigh ar Ten Acres brynhawn Sadwrn ar ôl methu cic o’r smotyn hwyr.
Connor Jennings a fethodd y cyfle hwyr wrth i’r ymwelwyr o ogledd Cymru lithro ymhellach i lawr tabl y Gynghrair Genedlaethol.
Rhoddodd Andy Drury’r tîm cartref ar y blaen wedi dim ond deg munud gydag ergyd wych o bellter.
Unionodd Sean Newton i’r Dreigiau wyth munud yn ddiweddarach gyda chynnig arall o du allan i’r cwrt cosbi.
Daeth y cyfle i Jennings ei hennill hi wedyn yn y munud olaf wedi trosedd Will Evans ar Wes York, ond methu oedd ei hanes wrth i’w dîm orfod bodloni ar bwynt.
Byddai buddugoliaeth wedi cadw Wrecsam yn ddegfed yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol ond nid yw’r pwynt yn ddigon i’w hatal rhag llithro i’r deuddegfed safle.
.
Eastleigh
Tîm: Flitney, Partington (Strevens 46’), Turley, Reason, Harding, Evans, Payne, Drury, Mohamed (Cook 79’), Midson, Coulson
Gôl: Drury 10’
.
Wrecsam
Tîm: Taylor, Vidal, Hudson, Heslop, Newton, Fyfield, Smith, Evans, Jennings, Gray (York 85’), Beck (Jackson 85’)
Gôl: Newton 18’
Cardiau Melyn: Beck 23’, Fyfield 28’
.
Torf: 1,904