Morecambe 1–2 Casnewydd                                                         

Sgoriodd Scott Boden ddwy waith wrth i Gasnewydd drechu Morecambe yn y Globe Arena brynhawn Sadwrn.

Cododd yr Alltudion saith pwynt yn glir o safleoedd disgyn yr Ail Adran gyda buddugoliaeth dda oddi cartref.

Rhoddodd Boden yr ymwelwyr ar y blaen yn y munud cyntaf, yn sgorio o groesiad Mark Byrne.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd Morecambe yn gyfartal ar yr awr diolch i Shaun Miller.

Fe arhosodd hi felly am lai na deg munud cyn i Boden rwydo ei ail ef yn dilyn gwaith creu Alex Rodman y tro hwn.

Mae Casnewydd yn aros yn ugeinfed yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y fuddugoliaeth, ond yn bwysicach, mae saith pwynt bellach yn eu gwahanu hwy a Dagenham & Redbridge sydd yn drydydd ar hugain.

.

Morecambe

Tîm: Roche, Beeley, Dugdale, Parrish, Conlan, Fleming, Goodall (Mullin 77’), Barkhuizen, Devitt, Ellison, Miller

Gôl: Miller 60’

Cardiau Melyn: Ellison 76’, Conlan 86’

.

Casnewydd

Tîm: Beeney, Holmes, Jones, Hughes, Davies, Rodman, Byrne, Ellito, Smalley (Barrow 73’), Boden, Wilkinson (Ayina 85’)

Goliau: Boden 1’, 69’

Cerdyn Melyn: Boden 71’

.

Torf: 1,342