Huddersfield 2–3 Caerdydd                                         

Cafodd Caerdydd amser da yn Stadiwm John Smith’s brynhawn Sadwrn wrth guro Huddersfield yn y Bencampwriaeth.

Roedd goliau Peter Wittingham (2) a’r blaenwr newydd, Lex Immers, yn ddigon wrth i’r Adar Gleision ennill mewn gêm agos.

Yn dilyn dechrau diflas i’r gêm fe roddodd Wittingham yr ymwelwyr ar y blaen wyth munud cyn yr egwyl, yn gorffen yn daclus wedi gwaith creu Anthony Pilkington.

Am dri munud yn unig yr arhosodd hi felly serch hynny cyn i Nahki Wells unioni pethau i’r tîm cartref.

Aeth yr Adar Gleision yn ôl ar y blaen ar yr awr pan rwydodd Immers yn dilyn gwaith da Sammy Ameobi ar yr asgell, gôl i’r blaenwr yn ei gêm gyntaf ers ymuno ar fenthyg o Feyarnoord.

Dyblodd Wittingham y fantais ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg gyda chic rydd wych, a gôl gysur yn unig oedd ymdrech Harry Bunn yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn codi Caerdydd i’r nawfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth, dri phwynt yn unig o’r safleoedd ail gyfle.

.

Huddersfield

Tîm: Steer, Dempsey (Bojaj 86’), Craine, Lynch, Davidson, Hogg, Huws (Whitehead 60’), Matmour, Paterson, Bunn, Wells

Goliau: Wells 40’, Bunn 90’

Cardiau Melyn: Lynch 52’, Wells 76’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Fabio, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Ameobi, O’Keefe (Dikgacoi 89’), Ralls, Wittingham, Pilkington (Macheda 69’), Immers (Gunnarsson 77’)

Goliau: Wittingham 37’, 79’, Immers 61’

Cardiau Melyn: O’Keefe 55’, Fabio 73’, Gunnarsson 89’

.

Torf: 11,002