Liam Williams
Fe fydd Liam Williams yn chwarae dros y Scarlets ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers Cwpan Rygbi’r Byd llynedd, wrth iddo geisio profi wrth Warren Gatland ei fod yn ffit ar gyfer y Chwe Gwlad.

Cafodd y cefnwr ei enwi yn y garfan genedlaethol ar gyfer y gystadleuaeth wythnos diwethaf, ond fe fydd chwarae dros ei ranbarth y penwythnos yma er mwyn dangos wrth hyfforddwr Cymru ei fod wedi gwell o anaf i’w droed.

Bydd y canolwr Gareth Owen hefyd yn dychwelyd i’r tîm ar ôl anaf, wrth i Wayne Pivac newid ei dîm yn sgil yr absenoldebau rhyngwladol.

Mae Jake Ball, Gareth Davies, Aled Davies, Rob Evans, Samson Lee a Ken Owens i gyd i ffwrdd gyda charfan Cymru, tra bod John Barclay gyda charfan yr Alban a Jordan Williams gyda thîm saith bob ochr Cymru.

Bydd y Scarlets yn gobeithio aros ar frig y Pro12 wrth iddyn nhw deithio i Connacht, sydd yn bedwerydd.

Tîm y Scarlets: Liam Williams, Tom Williams, Gareth Owen, Hadleigh Parkes (capt), DTH van der Merwe, Aled Thomas, Rhodri Williams; Phil John, Ryan Elias, Rhodri Jones, Tom Price, Lewis Rawlins, Aaron Shingler, Will Boyde, Morgan Allen

Eilyddion: Kirby Myhill, Dylan Evans, Peter Edwards, Jack Jones, Tom Phillips, Connor Lloyd, Steven Shingler, Michael Collins