Mae’r Gweilch wedi cadarnhau bod Lloyd Ashley am fethu gweddill y tymor ar ôl anafu cymalau yn ei ben-glin.

Fe fydd y prop yn gorfod cael llawdriniaeth wedi’r anaf yn y golled i Gaerwysg yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y penwythnos diwethaf.

Cafodd Hanno Dirksen hefyd anaf i gymalau yn ei ben-glin yn yr un gêm, ond dyw’r niwed ddim mor wael yn ei achos ef ac ni fydd rhaid iddo fynd dan y gyllell.

Fe allai’r asgellwr ddychwelyd ymhen chwe wythnos os yw popeth yn mynd yn iawn, yn ôl Rheolwr Perfformiad Meddygol y rhanbarth Chris Towers.

Bydd y Gweilch yn herio Glasgow yn Stadiwm Liberty prynhawn dydd Sul wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r Pro12 heb y chwaraewyr sydd i ffwrdd gyda charfan Chwe Gwlad Cymru.