Scarlets 10–22 Northampton

Daeth ymgyrch drychinebus y Scarlets yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop i ben am dymor arall wrth iddynt golli yn erbyn Northampton ar Barc y Scarlets nos Sadwrn.

Roedd Bois y Sosban wedi colli pump allan o bump cyn ymweliad y Saeson, a pharhau a wnaeth y rhediad siomedig wrth i’r ymwelwyr gadw eu gobeithion o gyrraedd yr wyth olaf yn fyw gyda buddugoliaeth bwynt bonws.

Sgoriodd Harry Mallinder y cais agoriadol wedi deuddeg munud ar ôl rhyng-gipio’r bêl ar y llinell ddeg medr.

Llithrodd George Pisi drosodd yn y gornel i ychwanegu’r ail hanner ffordd trwy’r hanner cyn i Aled Thomas gicio pwyntiau cyntaf y Scarlets cyn yr egwyl, 12-3 y sgôr ar yr hanner.

Arweiniodd sgarmes symudol at drydydd cais yr ymwelwyr wrth i Sam Dickinson dirio yn gynnar yn yr ail gyfnod cyn i George North sicrhau’r pwynt bonws i’w dîm presennol gyda chais yn erbyn ei gyn gyflogwyr.

Cais cysur yn unig oedd ymdrech hwyr Rhodri Jones wrth i ymgyrch Ewropeaidd ddigalon y Scarlets ddod i ben.

.

Scarlets

Cais: Rhodri Jones 79’

Trosiadau: Aled Thomas 80’

Cic Gosb: Aled Thomas 27’

Cerdyn Melyn: Maselino Paulino 48’

.

Northampton

Ceisiau: Harry Mallinder 12’, George Pisi 20’, Sam Dickinson 46’, George North 55’

Trosiad: Steve Myler 12’

Cerdyn Melyn: Lee Dickson 73’