Y Seintiau Newydd 2–0 Dinbych                                                  

Roedd y Seintiau Newydd rhy dda i Ddinbych yn rownd derfynol Cwpan Word ar barc Maesdu, Llandudno nos Sadwrn.

Cafodd y Seintiau newyddion drwg oddi ar y cae nos Wener wrth iddynt dderbyn gorchymyn i’r Uchel Lys yn Llundain fore Llun, ond doedd dim trafferthion i ddeiliaid Cwpan Word ar y cae wrth iddynt gadw eu gafael ar y tlws gyda buddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Rheolodd y Seintiau rannau helaeth o’r gêm heb greu llawer o gyfleoedd clir ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda pheniad Matty Williams o groesiad cywir Chris Marriott.

Cafodd Dinbych eu cyfnod gorau ar ddechrau’r ail hanner ond doedd dim amheuaeth am y canlyniad wedi i Mike Wilde ddyblu mantais y Seintiau toc cyn yr awr gyda pheniad da o groesiad Adrian Cieslewicz.

Cynnig deheuig Paul Hart bedwar munud o’r diwedd oedd yr agosaf y daeth Dinbych at gôl ond aeth ei foli dros y trawst wrth i’r tîm llawn amser o Groesoswallt ddal eu gafael yn gyfforddus ar y fuddugoliaeth a chodi’r cwpan am yr ail flwyddyn yn olynol.

.

Y Seintiau Newydd

Tîm: Harrison, Spender, K. Edwards, Rawlinson, Marriott, Seargeant, A. Edwards (Gossett 81’), Williams (Draper 87’), Mullan, Cieslewicz (Quigley 80’), Wilde

Goliau: Williams 25’, Wilde 57’

.

Dinbych

Tîm: Power, Freeman, Sharples, Davies (Lloyd 46’), Hughes, Williams, Tate, Macintyre (Hart 72’), Duckett (Cronshaw 80’), Pierce, Roberts

.

Torf: 1,118