Wrecsam 3–1 Lincoln                                                                        

Daeth rhediad gwael Wrecsam i ben gyda buddugoliaeth dros Lincoln ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Doedd y Dreigiau heb ennill mewn pedair gêm yn y Gynghrair Genedlaethol cyn ymweliad Lincoln ond roedd goliau York, Jennings a Heslop yn ddigon i ddod â’r rhediad hwnnw i ben.

Rhoddodd Matt Rhead yr ymwelwyr o’r blen o’r smotyn yn y chwarter awr cyntaf yn dilyn trosedd Rhys Taylor ar Jack Muldoon.

Roedd Wrecsam yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i beniad Wes York o groesiad Connor Jennings.

Jennings ei hun sgoriodd i roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, yn manteisio wedi i Paul Farman yn y gôl wneud smonach o groesiad Dominic Vose.

Cafodd Lincoln gyfleoedd wedi hynny ond roedd Taylor yn cael gêm dda yn y gôl i Wrecsam, a roedd y tri phwynt yn ddiogel i’w dîm bum munud o’r diwedd diolch i ergyd Simon Heslop o bellter.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam dros Lincoln i’r degfed safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol, ond maent yn parhau chwe phwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Smith, Heslop, Newton, Fyfield, Evans, Jennings, York, Gray (Moke 92′), Vose (Jackson 62′)

Goliau: York 36’, Jennings 48’, Heslop 86’

.

Lincoln

Tîm: Farman, Beevers, Waterfall, Power, Brough, Howe, Muldoon, Wood (Stanley 52′), Sparrow, Rhead, Hearn (McDaid 46′)

Gôl: Rhead [c.o.s.] 14’

Caridau Melyn: Waterfall 53’, Power 57’, Stanley 67’

.

Torf: 3,853