Casnewydd 2–2 Dagenham & Redbridge                                 

Sgoriodd Casnewydd ddwy gôl yn y deg munud olaf i gipio pwynt yn erbyn Dagenham & Redbridge ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Aeth yr ymwelwyr ddwy gôl ar y blaen yn chwe munud cyntaf y gêm Ail Adran ond brwydrodd y Cymry yn ôl i sicrhau gêm gyfartal gyda dwy gôl hwyr.

Rhoddodd cyn chwaraewr Caerfyrddin, Christian Doidge, Dagenham & Redbridge ar y blaen wedi llai na munud gyda foli daclus o bas Oliver Muldoon.

Dyblodd Joe Worrall y fantais bum munud yn ddiweddarach o gic gornel Ashley Hemmings ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Yn wir, felly yr arhosodd hi tan saith munud o ddiwedd y naw deg pan wyrodd ergyd John-Christophe Ayina i gefn y rhwyd.

Yna, sicrhaodd Conor Wikinson bwynt i’r tîm cartref bum munud yn ddiweddarach pan adlamodd y bêl i’w lwybr wedi i Mark Cousins arbed cynnig gwreiddiol Alex Rodman.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn nhabl yr Ail Adran wrth i Gasnewydd aros yn ugeinfed, bedwar pwynt uwch ben Dagenham & Redbridge sydd yn drydydd ar hugain.

.

Casnewydd

Tîm: Beeney, Holmes, Davies, Donacien (Barrow 72′), Hughes, Smalley (Ayina 58′), Byrne, Klukowski (Owen-Evans 68′), Rodman, Wilkinson, Boden

Goliau: Ayina 83’, Wilkinson 88’

Cerdyn Melyn: Wilkinson 39’

.

Dagenham & Redbridge

Tîm: Cousins, Dikamona, Hoyte, Worrall, Passley, Labadie, Boucaud (Guttridge 89′), Muldoon, Hemmings, Doidge (Hawkins 71′), Chambers

Goliau: Doidge 1’, Worrall 6’

Cerdyn Melyn: Muldoon 18’

.

Torf: 2,323