Caerdydd 2–2 Rotherham                                                               

Sgoriodd chwaraewr canl cae Caerdydd, Anthony Pilkington, dair gôl wrth i Rotherham ymweld â Stadiwm y Ddinas yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn, un i’w rwyd ei hun a dwy yn y pen iawn wrth iddi orffen yn gyfartal, dwy gôl yr un.

Rhododd Pilkington yr Adar Gleision Gleision ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, yn gorffen yn daclus ar ôl rheoli’r bêl â’i ben.

Roedd Rotherham yn gyfartal cyn yr egwyl wedi Joe Newell rwydo o ongl dynn ar ôl mynd heibio i’r gôl-geidwad cartref, David Marshall.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail gyfnod pan wyrodd Pilkington gic gornel i’w rwyd ei hun.

Ond yr Adar Gleision oedd y tîm gorau ac roeddynt yn llawn haeddu unioni pan sgoriodd Pilkington ei drydedd gôl, ei ail yn y pen iawn, wedi gwaith creu Stuart O’Keefe.

Cafodd Lee Peltier gyfle da i roi Caerdydd yn ôl ar y blaen wedi hynny ond peniodd heibio’r postyn, cyn cael ei anfon oddi ar y cae yn hwyrach yn y gêm ar ôl derbyn ei ail gerdyn melyn.

Bu rhaid i Russel Slade fodloni ar bwynt yn unig yn erbyn ei gyn glwb felly, pwynt sydd yn ddigon i’w cadw yn nawfed yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Noone (Fabio 85′), O’Keefe, Ralls, Whittingham (Ameobi 76′), Pilkington, Mason (Immers 59′)

Goliau: Pilkington 25’, 60’

Cardiau Melyn: Peltier 74’, 84’, Pilkington 79’

Cerdyn Coch: Peltier 84’

.

Rotherham

Tîm: Camp, Facey, Broadfoot, Belaid (Collins 86′), Mattock, Green, Smallwood, Burke, G. Ward, Newell (Becchio 67′), D. Ward (Clarke-Harris 79′)

Goliau: Newell 44’, Pilkington [g.e.h.] 49’

.

Torf: 14,885