Bydd Josh Adams yn ennill ei hanner canfed cap dros dîm rygbi Cymru ddydd Sadwrn (Awst 12), wrth iddyn nhw herio Lloegr yn eu hail gêm baratoadol ar gyfer Cwpan y Byd yn yr hydref.
Mae Cymru eisoes wedi curo Lloegr unwaith dros yr wythnos ddiwethaf, gyda buddugoliaeth o 20-9 yng Nghaerdydd, ond yn Twickenham fydd yr ail gyfarfod rhyngddyn nhw wrth iddyn nhw droi eu gorwelion tua Ffrainc.
Bydd y canolwr Joe Roberts yn ennill ei gap cyntaf, gan fod yn bartner i Nick Tompkins yng nghanol cae.
Bydd yr eilyddion Kemsley Mathias a Keiran Williams hefyd yn ennill eu cap cyntaf pe baen nhw’n dod oddi ar y fainc.
Y bachwr Dewi Lake, cyn-gapten y tîm dan 20, fydd yn arwain tîm Warren Gatland, a hynny am y tro cyntaf ar ôl i’r chwaraewr rheng ôl Jac Morgan gael y fraint yr wythnos ddiwethaf.
Yn cadw cwmni i Lake yn y rheng flaen fydd Gareth Thomas a Tomas Francis, tra bydd y clo Rhys Davies yn ennill ei gap cyntaf ac yn cadw cwmni i Adam Beard yn yr ail reng.
Daw cap cyntaf hefyd i Taine Plumtree yn y rheng ôl, gyda Dan Lydiate yn chwarae dros Gymru am y tro cyntaf ers yr hydref, ac mae Tommy Reffell yn cwblhau’r triawd hwnnw.
Daw Tomos Williams i mewn i wisgo’r crys rhif naw ar ôl bod ar y fainc yr wythnos ddiwethaf, gyda’r maswr Owen Williams yn cwblhau’r haneri.
Liam Williams fydd yn safle’r cefnwr, gyda Tom Rogers yn chwarae ar yr asgell am y tro cyntaf ers 2021.
Dywed Warren Gatland fod yna “gyfle i griw arall o chwaraewyr” yn y gêm hon, a bod yna “dipyn o gystadleuaeth” yn y garfan cyn Cwpan y Byd.
Wrth geisio penderfynu ar gapten y dyfodol, dywed y prif hyfforddwr fod ganddo un llygad ar Gwpan y Byd 2027 hefyd.
Tîm Cymru
15. Liam Williams, 14. Josh Adams, 13. Joe Roberts, 12. Nick Tompkins, 11. Tom Rogers, 10. Owen Williams, 9. Tomos Williams; 1. Gareth Thomas, 2. Dewi Lake (capten), 3. Tomas Francis, 4. Rhys Davies, 5. Adam Beard, 6. Dan Lydiate, 7. Tommy Reffell, 8. Taine Plumtree
Eilyddion
16. Sam Parry, 17. Kemsley Mathias, 18. Dillon Lewis, 19. Christ Tshiunza, 20. Taine Basham, 21. Kieran Hardy, 22. Dan Biggar, 23. Keiran Williams