Roedd tîm criced Morgannwg wedi dychwelyd i Gastell-nedd heddiw (dydd Mawrth, Awst 8) ar gyfer y gêm Cwpan Metro Bank gyntaf o ddwy ar y Gnoll y tymor hwn, ond doedd dim modd chwarae yn sgil y glaw.
Ond na fyddai wedi dychwelyd yno ar gyfer yr ornest yn erbyn Durham yw’r batiwr tramor Colin Ingram, oedd wedi anafu ei goes yn y gêm yn Derby lle sgoriodd e 115 heb fod allan i sicrhau’r fuddugoliaeth gyda 17 o belenni’n weddill.
Un arall sy’n cael gorffwys yw’r bowliwr cyflym Jamie McIlroy, ac yntau eisoes wedi cipio 33 o wicedi y tymor hwn wrth arwain yr ymosod.
Ond yn dychwelyd roedd y batiwr Sam Northeast a’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Ruaidhri Smith.
Sgoriodd Northeast 177 heb fod allan – sy’n record i’r sir – yn ei gêm undydd ddiwethaf yn erbyn Swydd Gaerwrangon y tymor diwethaf.
Daeth y gêm hon yn erbyn Durham yn fuan ar ôl i Forgannwg gipio buddugoliaeth dros Swydd Derby ar ôl cwrso 299, gyda Ben Kellaway hefyd yn cipio’i wicedi cyntaf i’r sir.
Collodd Durham eu gêm gyntaf yn erbyn Swydd Gaerwrangon cyn curo Sussex gyda sgôr o 427 am naw wrth i Alex Lees a David Bedingham daro canred yr un, gyda Sussex ond yn llwyddo i gyrraedd 295 am naw.
‘Cyffro’
“Roedd digon o bethau positif i’w cymryd o’r gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon, ac ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi chwarae’n dda yn Derby i ddod adref â’r fuddugoliaeth,” meddai’r capten Kiran Carlson.
“Fe wnaethon ni eu cyfyngu nhw’n dda iawn a pharhau i frwydro hyd ddiwedd y batiad i’w cadw nhw o dan 300, ac wedyn chwaraeodd Colin [Ingram] yn wych wrth gwrso.
“Mae e’n amlwg yn mynd i fod yn golled fawr gyda’r anaf i’w goes ond mae gyda ni ddyfnder da gyda Sam [Northeast] a Timm [van der Gugten] yn dychwelyd i’r tîm.
“Dw i’n meddwl ein bod ni’n adeiladu’n dda a gobeithio y gallwn ni gadw hynny i fynd yng Nghastell-nedd.
“Mae hi bob amser yn destun cyffro cael chwarae ar gaeau allanol, a dw i’n ffyddiog y bydd awgyrgylch arbennig yma fel y llynedd.”
Gemau’r gorffennol
Yn y chwe gêm ddiwethaf rhwng Morgannwg a Durham, bu’r Saeson yn fuddugol bedair gwaith a’r sir Gymreig ddwywaith.
Enillodd Durham o 70 rhediad yn 2007, o 44 rhediad yn 2008, o 59 rhediad yn 2012 ac o 52 rhediad yn 2014.
15 rhediad oedd maint buddugoliaeth Morgannwg yn 2012, a 58 rhediad yn 2021 yn rownd derfynol y gwpan undydd yn 2021 wrth iddyn nhw ennill eu tlws cyntaf ers 2004.
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, A Gorvin, T Bevan, S Northeast, R Smith, H Podmore, Zain ul Hassan, W Smale, P Sisodiya, A Horton, T van der Gugten, E Byrom
Carfan Durham: D Bedingham, S Borthwick, J Bushnell, G Clark, P Coughlin, G Drissell, O Gibson, M Jones, A Lees (capten), B McKinney, M Pretorious, L Robinson, L Trevaskis