Bydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio am dywydd gwell ar gyfer eu gêm 50 pelawd yn erbyn Swydd Warwick yng Nghwpan Metro Bank ar y Gnoll yng Nghastell-nedd heddiw (dydd Iau, Awst 10).
Does dim newid i’r garfan gafodd ei henwi ddechrau’r wythnos, ond mae David Harrison wedi’i enwi’n Brif Hyfforddwr erbyn hyn, er i Mark Alleyne gael ei benodi i’r swydd honno ar ddechrau’r tymor.
Mae’r sefyllfa’n codi cwestiynau am ddyfodol Alleyne, wythnosau’n unig ar ôl i’r capten David Lloyd gael mynd ar fenthyg i Swydd Derby ar gyfer y twrnament cyn symud yn barhaol ar ddiwedd y tymor.
Mae gan Forgannwg driphwynt yn eu tair gêm gyntaf yn y twrnament, ar ôl ennill un a cholli un.
Does dim lle yn y garfan o hyd i Colin Ingram na Jamie McIlroy, gyda’r ddau yn cael gorffwys, tra bod Sam Northeast a Timm van der Gugten wedi’u cynnwys.
Swydd Warwick sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd gyda dwy fuddugoliaeth mewn dwy gêm yn erbyn Gwlad yr Haf a Swydd Gaerloyw.
Gemau’r gorffennol
Cael a chael yw hi mewn gemau 50 pelawd rhwng y ddwy sir ers troad y ganrif.
Doedd hi ddim yn bosib cynnal y gemau yn 2006 nac yn 2009 o ganlyniad i’r tywydd, ond roedd Morgannwg yn fuddugol o 130 o rediadau yn 2008 ac o ddwy wiced yn 2021.
Swydd Warwick aeth â hi yn 2014, a hynny o saith wiced ar ddull DLS, ac o naw wiced yn 2015.
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Root, B Kellaway, A Gorvin, T Bevan, S Northeast, R Smith, H Podmore, Zain ul Hassan, W Smale, P Sisodiya, A Horton, T van der Gugten, E Byrom
Carfan Swydd Warwick: E Barnard, M Booth, E Brookes, M Burgess, G Garrett, O Hannon-Dalby, J Lintott, C Miles, W Rhodes (capten), Hamza Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates