Mae daliad tyngedfennol gostiodd yn ddrud i dîm criced Morgannwg yn erbyn Swydd Warwick yng Nghastell-nedd ddoe (dydd Iau, Awst 10) wedi hollti barn chwaraewyr a sylwebyddion.

Roedd Morgannwg yn edrych fel pe baen nhw am ennill yr ornest 50 pelawd yng Nghwpan Metro Bank pan gafodd Timm van der Gugten ei ddal gan Ethan Brookes ar y ffin, a doedd lluniau’r camerâu ddim yn dangos yn glir a oedd y daliad yn un glân.

O rai onglau, roedd hi’n edrych fel pe bai’r maeswr wedi casglu’r bêl yn gywir cyn camu ar y rhaff, ond mae ongl arall yn awgrymu iddo ddal y bêl pan oedd ei droed yn cyffwrdd â’r ffin a bod hynny felly’n golygu chwe rhediad i’r batiwr.

Ar y pryd, roedd Morgannwg yn 304 am wyth, a dim ond 28 o rediadau oedd eu hangen arnyn nhw i gipio’r fuddugoliaeth yng nghanol cryn dipyn o glatsio ffyrnig.

Roedd y sir Gymreig 24 rhediad yn brin yn y pen draw.

Beth gafodd ei ddweud?

Ar ddiwedd y gêm, cafodd y sefyllfa ei chrybwyll gan Kiran Carlson wrth siarad â’r wasg.

“Roedd daliad tynn ar y diwedd, ac mae’r pethau hynny’n digwydd,” meddai.

“Cyhyd â bod Ethan Brookes yn hapus ei fod e wedi ei dal hi, dyna’r cyfan allwn ni ofyn amdano.”

Fe wnaeth y sefyllfa hollti barn dau sylwebydd BBC Cymru hyd yn oed, gydag Edward Bevan yn mynnu ei fod yn ddaliad, tra bod Nick Webb yn llai sicr.

“Tynn” oedd ymateb Nick Webb.

“Mewn amser go iawn, ro’n i’n meddwl ei fod e allan,” meddai.

“Anodd cadarnhau naill ffordd neu’r llall, hyd yn oed gydag onglau camera da.”

Yn ôl Edward Bevan, doedd “dim cwestiwn” ei fod e allan.

“Doedd dim ond rhaid i’r dyfarnwr ofyn i ddyfarnwr y gêm ar ôl gwylio’r ffrwd – penderfyniad wnaeth gostio’r gêm i Forgannwg, dw i bron yn sicr.”

Manylion y gêm

Mae’r canlyniad yn golygu bod Swydd Warwick yn cadw eu record 100% yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Tarodd Ben Kellaway, y Cymro ifanc o Gasnewydd, 67 oddi ar 41 o belenni i fynd â’i dîm o fewn trwch blewyn i’r fuddugoliaeth cyn y digwyddiad tyngedfennol.

Kellaway oedd y batiwr olaf allan gyda 2.5 pelawd yn weddill yn y pen draw, ac roedd hanner canred yr un i Carlson, Sam Northeast a Billy Root yn ofer.

Cipiodd Swydd Warwick y fuddugoliaeth ar ôl i’w hagorwyr Rob Yates ac Ed Barnard osod y seiliau wrth iddyn nhw ddod o fewn un rhediad i record y sir am y bartneriaeth agoriadol fwyaf mewn gemau Rhestr A.

Pan ddaeth eu partneriaeth i ben, gyda Barnard wedi’i ddal gan van der Gugten oddi ar fowlio Zain-ul-Hassan, roedd y batiwr wedi sgorio 79 oddi ar 88 o belenni.

Doedd hi ddim yn hir wedyn cyn i Yates golli ei wiced am 102 ar ôl wynebu 114 o belenni, wrth i’w dîm golli dwy wiced am saith rhediad mewn tair pelawd.

Daeth sawl cyfraniad pellach i Swydd Warwick i’w hachub nhw, ac fe sgorion nhw 129 o rediadau oddi ar 14 pelawd ola’r batiad.

Fe wnaeth Kellaway serennu gyda’r bêl hefyd, wrth gipio tair wiced am 56 oddi ar saith pelawd.

Brwydrodd Morgannwg yn ddewr ar ddechrau eu batiad, ond collodd y ddau agorwr, Tom Bevan ac Eddie Byrom, eu wicedi’n gynnar.

Daeth Carlson a Northeast i’r llain, ac fe gyrhaeddodd y capten ei hanner canred oddi ar 33 o belenni gyda’i dîm yn cyrraedd y cant o fewn pymtheg pelawd.

Collodd Carlson ei wiced am 61 cyn i Northeast a Billy Root gynyddu’r pwysau ar Swydd Warwick ac roedden nhw’n 181 oddi ar 31 o belawdau.

Tarodd Root 56, ond yn nwylo Kellaway roedd gobeithion Morgannwg yn y pen draw wrth iddo fe glatsio ergydion i’r ffin a chyrraedd ei hanner canred oddi ar 26 o belenni.

Collodd Alex Horton a van der Gugten eu wicedi wrth i Forgannwg barhau i frwydro, a chafodd Andy Gorvin ei fowlio wrth i Ollie Hannon Dalby gipio’i bedwaredd wiced.