Mae criw o reslwyr Cymreig proffesiynol am ddychwelyd i’w sir enedigol, Blaenau Gwent, fis yma i gyflwyno’r hyn sy’n cael ei alw’n un o’r digwyddiadau reslo mwyaf erioed yng nghymoedd y de.

Bydd y sioe Echoes in the Valley yng Nghanolfan Chwaraeon Glyn Ebwy ar Awst 23 yn serennu nifer o gyn-sêr WWE gan gynnwys Flash Morgan Webster, Wild Boar a Mark Andrews, a bydd yn gweld nifer o sêr lleol gafodd eu magu mewn cylchoedd ym Mlaenau Gwent yn dychwelyd yno.

Mae disgwyl i’r digwyddiad ‘croeso adref’ ddenu cannoedd o bobol o’r ardal leol, ynghyd â nifer fawr o gefnogwyr reslo fydd yn teithio i’r lleoliad o bob rhan o’r wlad.

Daw hyn wythnosau’n unig wedi marwolaeth un o arwyr Blaenau Gwent, y cyn-reslwr Adrian Street, oedd yn adnabyddus ledled y byd am ei egni disglair a’i steil yn y cylch.

‘Dod adref’

Mae Flash Morgan Webster, sy’n 34 oed, yn bencampwr tîm tag Reslo’r Byd Impact, yn ogystal â bod y Cymro cyntaf i ddal gwregys WWE fel rhan o’i bartneriaeth tîm tag gyda Mark Andrews, ac mae’n dweud y bydd serennu fel uchafbwynt y sioe yn ei dref enedigol yn brofiad arbennig iawn iddo fe fis yma.

“Rydyn ni wedi bod mewn sioeau ledled y byd, ond er mor cŵl yw hi cael reslo mewn llefydd fel Wembley neu’r O2 Arena, mae rhywbeth arbennig iawn am ddod adref a reslo gerbron ein cymuned ein hunain oedd wedi ein cefnogi ni ymhell cyn i ni gael llwyddiant.

“Rydyn ni’n cynnal y digwyddiad er mwyn arddangos faint o reslwyr o safon fyd-eang sydd wedi dod o’r ardal hon dros y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â rhoi rhywbeth yn ôl i’n cefnogwyr lleol sy’n gallu dod a gweld sioe flaenllaw ar stepen eu drws.

“Cafodd y sioe reslo annibynnol gyntaf aethon ni iddi yn tyfu i fyny ei chynnal yn hen Ganolfan Hamdden Glyn Ebwy, felly mae’r ffaith ein bod ni’n cael dychwelyd a rhedeg y fath sioe fawr yn yr un newydd yn teimlo’n eithaf swreal, â dweud y gwir.

“Mae’n mynd i fod yn sioe anhygoel gyda rhai o’r reslwyr mwyaf Ewrop yn cymryd rhan, felly gall y rheiny sy’n mynychu ddisgwyl gweld rhywbeth arbennig ar y noson.”

Sioe o safon uchel

Cafodd Flash, oedd yn arfer cael ei adnabod wrth yr enw Gavin Watkins, ei eni a’i fagu ychydig filltiroedd i ffwrdd yn nhref Brynmawr, ac mae’n dweud y bydd y sioe yn cael ei rhedeg ar brisiau fforddiadwy er mwyn galluogi cynifer o bobol â phosib i fynychu, er ei bod hi’n cael ei rhedeg ar rai o’r safonau uchaf yn y byd reslo.

“Fe wnes i a Mark Andrews ennill y gwregysau tîm tag Impact allan yng Nghanada ychydig fisoedd yn ôl, felly mae cael amddiffyn y rheiny wir yn ychwanegu elfen ychwanegol i’r digwyddiad hwn,” meddai wedyn.

“Mae’n hyrwyddiad byd-eang, felly mae cael eu cymeradwyaeth nhw wir yn dangos y lefel elit y gallwch chi ei disgwyl yma yng Nglyn Ebwy.

“Fodd bynnag, mae’n dal yn bwysig iawn i ni ein bod ni’n ei gwneud yn fforddiadwy i bawb yn ardal Blaenau Gwent, sy’n cael ei hystyried yn ardal incwm isel.

“Bydd prisiau’n dechrau ar oddeutu £10 y tocyn fydd, gobeithio, yn rhoi cyfle i bawb sydd eisiau dod i brofi digwyddiad fel hwn.”

Brendan White

Hefyd yn cystadlu yn y digwyddiad hwn fydd Brendan White, y reslwr sy’n enedigol o Nantyglo.

White, sy’n 34 oed, yw perchennog a phrif hyfforddwr yr ysgol reslo New Wave Wrestling Academy yng Nghasnewydd, ac mae hefyd yn adnabyddus fel rhan o un o’r timau tag mwyaf yn Ewrop gyda’i bartner Danny Jones.

“Dechreuon ni wneud hyn gynifer o flynyddoedd yn ôl nawr, gan reslo mewn caeau a iardiau o amgylch Blaenau Gwent, fel ei fod yn teimlo bron fel cylch cyflawn cael dod adref a chyflwyno sioe enfawr fel hon fyddai fel arfer yn cael ei gweld mewn llefydd fel Caerdydd, Bryste neu Lundain.

“Mae effaith y fath ardal fach ar reslo yn y Deyrnas Unedig, a hyd yn oed ar draws y byd, yn eithaf syfrdanol a bydd hi’n wych cael dod i ddangos hynny i bobol.

“Bydda i’n cystadlu yn y sioe ar y noson, ynghyd â nifer o fy myfyrwyr o’r academi, sydd i gyd yn gweithio’n galed i wneud hon yn noson i’w chofio.”