Mae dau newid yng ngharfan griced Morgannwg i herio Sussex yng Nghwpan Metro Bank yn Hove heddiw (dydd Sul, Awst 13).

Daw Colin Ingram, sydd wedi gwella o anaf i’w goes, a Jamie McIlroy i mewn yn lle Billy Root a Harry Podmore.

Wrth i Forgannwg orffwys chwaraewyr, daeth cyfle i’r to iau seremoni, nid lleiaf y chwaraewr amryddawn Ben Kellaway, sy’n 19 oed.

Bydd Morgannwg yn gobeithio taro’n ôl ar ôl colli o drwch blewyn yn erbyn Swydd Warwick, o 24 rhediad, dan amgylchiadau dadleuol gan wythnos.

Mae Morgannwg yn chweched yn y tabl, a Sussex ar y brig, hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth.

Mae Morgannwg wedi ennill pedair allan o’r chwe gêm 50 pelawd ddiwethaf yn erbyn Sussex, sydd ond wedi ennill un, a daeth y llall i ben heb ganlyniad.

Sussex: T Haines (capten), H Ward, T Alsop, C Pujara, T Clark, J Coles, F Hudson-Prentice, O Carter, J Carson, H Crocombe, S Hunt

Morgannwg: E Byrom, T Bevan, C Ingram, S Northeast, K Carlson (capten), B Kellaway, A Horton, Zain ul Hassan, T van der Gugten, J McIlroy, P Sisodiya