Fe wnaeth y dorf fwyaf erioed ar gyfer gêm griced merched yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Awst 12) wylio’r Tân Cymreig yn colli oddi ar belen ola’r ornest yn erbyn Southern Brave.

Mae Brave yn symud i frig y tabl yn sgil y canlyniad, gyda 6,500 o dorf yng Ngerddi Sophia.

Roedd y capten Anya Shrubsole wrth y llain i daro’r rhediadau buddugol wrth i’w thîm lwyddo i gwrso 145 i ennill.

Dyma’r tro cyntaf i dîm dinesig Caerdydd golli eleni, ac roedd cyfraniadau o hanner canred gan Sophia Dunkley a 44 di-guro Sarah Bryce yn ofer.

Roedd y Tân Cymreig heb nifer o’u sêr ar gyfer yr ornest, gan gynnwys Hayley Matthews o India’r Gorllewin (ysgwydd).

Yn y cyfamser, cipiodd Tymal Mills hatric yng ngêm y dynion wrth i Southern Brave guro’r Tân Cymreig o naw wiced.

Cafodd tîm dinesig Caerdydd eu bowlio allan am 87 yn eu can pelen, er gwaethaf cyfraniad o 38 gan Stevie Eskinazi.

Sgoriodd Devon Conway a Finn Allen 31 yr un i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw gyrraedd y nod yn ddi-drafferth.