Cafodd tîm pêl-droed Casnewydd fuddugoliaeth swmpus o 4-0 dros Doncaster yn Rodney Parade ddydd Sadwrn (Awst 12).

Collodd tîm Graham Coughlan ar ddiwrnod cynta’r tymor, ac roedden nhw’n awyddus i daro’n ôl yn gyflym.

Aeth yr Alltudion ar y blaen drwy Seb Palmer-Houlden, cyn i Will Evans fanteisio ar arbediad oddi ar ergyd Shane McLoughlin i ddyblu’r sgôr.

Camgymeriad arweiniodd at y drydedd gôl wrth i’r bêl wyro oddi ar Richard Wood i’w rwyd ei hun.

Daeth y bedwaredd drwy Evans cyn i Tommy Rowe ddod o fewn trwch blewyn i sgorio gôl gysur i Doncaster.

“Roedd yn berfformiad da ar y cyfan o’r dechrau i’r diwedd,” meddai Graham Coughlin.

“Cawson ni’r bedwaredd gôl, a daeth y gêm i ben.

“Dw i ddim yn gorddweud, ond gallen ni fod wedi dod i mewn bum neu chwe gôl ar y blaen yn yr hanner cyntaf – roedden ni’n dda iawn, iawn.”