Doedd perfformiad tîm pêl-droed Caerdydd “ddim yn ddigon da” wrth iddyn nhw golli o 2-1 gartref yn erbyn QPR ddoe (dydd Sadwrn, Awst 12).

Dyna asesiad y rheolwr Erol Bulut wedi’r golled, wrth i QPR ennill am y tro cyntaf y tymor hwn yn erbyn tîm blinedig y brifddinas.

Aeth y Saeson ar y blaen drwy Sinclair Armstrong yn yr hanner cyntaf.

Tarodd Aaron Ramsey y trawst wrth i Gaerdydd geisio unioni’r sgôr, ond creodd Armstrong gyfle i Kenneth Paal, a hwnnw’n dyblu mantais ei dîm cyn yr egwyl.

Rhwydodd Ike Ugbo i gadw’r Adar Gleision yn y gêm, cyn i Mark McGuinness daro’r trawst funudau cyn y chwiban olaf.

“Doedden ni ddim yn canolbwyntio yn yr hanner cyntaf, roedd nifer o chwaraewyr yn nerfus,” meddai Erol Bulut.

“Doedden ni ddim yn gallu rheoli’r gêm na chadw’r bêl yn ddigon da i greu cyfleoedd.

“Arweiniodd camgymeriadau unigol at eu goliau nhw.

“Wnaeth y gwrthwynebwyr ddim gwthio ryw lawer na chreu ryw lawer.

“Fe wnaethon ni greu digon i sgorio ail gôl o leiaf a chael pwynt.

“Ond roedd dau gamgymeriad unigol yn y gêm yn golygu bod y gwrthwynebwyr ar y blaen o 2-0, a dydy hi ddim yn hawdd dod yn ôl o’r fan honno.”