Bydd tîm pêl-droed Wrecsam yn teimlo fel pe baen nhw wedi colli cyfle i gipio buddugoliaeth dros AFC Wimbledon ddydd Sadwrn (Awst 12).

Sgoriodd James Tilley o’r smotyn yn hwyr yn y gêm i gipio pwynt i’r Saeson, ar ddiwedd gêm roedd Phil Parkinson, rheolwr Wrecsam, yn teimlo y dylen nhw fod wedi’i hennill.

Aeth Wrecsam ar y blaen ar ôl 22 munud wrth i Jacob Mendy ganfod Elliot Lee ar gyfer ergyd gyntaf gywir ei dîm ar y gôl.

Daeth cyfleoedd wedyn i Thomas O’Connor ac i James McClean yn ei gêm gyntaf i’r clwb, cyn i Ben Foster arbed cic Ali Al-Hamadi o’r smotyn ar ôl 65 munud.

Ond daeth gôl Tilley o’r smotyn wedyn wrth i Eoghan O’Connell lorio Harry Pell.

‘Lle anodd i ddod iddo’

“Mae’n lle anodd i ddod iddo, maen nhw’n uniongyrchol iawn,” meddai Phil Parkinson am AFC Wimbledon.

“Fe wnaethon ni ymdopi ag e’n dda ar y cyfan, fwy na thebyg tua diwedd y gêm dylen ni fod wedi ei hennill hi.

“Ond fe gymerwn ni bwynt cynta’r tymor a mynd yn ôl ar y ffordd ar gyfer nos Fawrth.”