Roedd Michael Duff, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn teimlo’n “rhwystredig” ar ôl gwylio’r Elyrch yn colli o 3-2 yn West Brom ddydd Sadwrn (Awst 12).
Roedd yr Elyrch ar ei hôl hi o 3-0 ar ôl 64 munud, a doedd dwy gôl yn nhraean ola’r gêm ddim yn ddigon i gipio pwynt wrth iddyn nhw golli o 3-2.
Daeth y gôl gyntaf oddi ar dafliad hir Semi Ajayi, cyn i West Brom ddyblu eu mantais drwy gôl i’w rwyd ei hun gan y golwr newydd Carl Rushworth, cyn i John Swift ychwanegu’r drydedd o’r smotyn.
Ond tarodd yr Elyrch yn ôl drwy beniad Harry Darling a gôl gyntaf Nathan Wood i’w glwb.
Daeth Ben Cabango o fewn trwch blewyn i unioni’r sgôr cyn y chwiban olaf.
Pwyso a mesur
Roedd Michael Duff wedi’i blesio gan ffitrwydd ei dîm a’r egni ddangoson nhw wrth iddyn nhw gwrso pwynt.
Ond dywedodd eu bod nhw’n rhy oddefol ac araf wrth fynd ar ei hôl hi.
“Y teimlad ar y cyfan yw rhwystredigaeth,” meddai.
“Ni oedd meistri ein methiant ein hunain.
“Roedden ni’n oddefol, roedden ni’n rhy araf gyda’r bêl yn yr hanner cyntaf, a doedd dim dwyster gyda ni.
“Doedd dim pwrpas i’r hyn roedden ni’n ei wneud, roedden ni’n cadw’r bêl jyst er mwyn ei chadw hi.
“Fe ildion ni gôl wael, allwch chi ddim eu galluogi nhw i gael pedwar cyswllt yn olynol yn eich cwrt cosbi eich hun.
“Daethon ni allan yn yr ail hanner a pheidio dangos llawer iawn mwy o bwrpas, sydd eto’n rhwystredigaeth.
“Fe wnaethon ni ildio dwy gôl arall, ac yna daethon ni’n fyw, sy’n beth positif.
“Roedden ni’n edrych yn ffit, symudon ni’r bêl yn gynt, daeth pobol ymlaen ac effeithio arni.
“Newidion ni’r drefn, ond dw i ddim yn meddwl bod a wnelo hynny lawer â’r peth, â dweud y gwir.
“Mae’n fater o bobol yn gwneud eu gwaith.
“Mae gan bobol waith penodol, a wnaethon nhw ddim eu gwneud nhw.”