Fe wnaeth perfformiad tîm criced Morgannwg oddi cartref yn Sussex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Metro Bank blesio’r prif hyfforddwr David Harrison.

Enillodd y sir Gymreig o bedair wiced, eu hail fuddugoliaeth yn y twrnament eleni, wrth iddyn nhw gwrso 277 yn llwyddiannus diolch yn bennaf i ymdrechion Colin Ingram oedd wedi sgorio 73 oddi ar 75 o belenni, gan gynnwys wyth pedwar ac un chwech enfawr.

Cyrhaeddodd Morgannwg y nod gyda 3.3 o belawdau’n weddill, a hynny ar ôl i Ingram gael ei ollwng gan Harrison Ward oddi ar fowlio Sean Hunt ar ôl sgorio tri rhediad yn unig.

Collodd Morgannwg yr agorwr Tom Bevan yn yr ail belawd, wrth iddo fe gael ei fowlio gan Fynn Hudson-Prentice heb sgorio, ond ychwanegodd Ingram ac Eddie Byrom (69) gyfanswm o 145 am yr ail wiced mewn 23 o belawdau.

Ar ôl colli nifer o wicedi, fe wnaeth Sam Northeast sefydlogi’r batiad wrth sgorio 40 heb fod allan wrth i’w dîm gyrraedd y nod yn gymharol ddi-drafferth yn y pen draw.

Dim ond unwaith mewn pedair gêm roedd Morgannwg wedi ennill cyn yr ornest hon, ac roedden nhw’n gwybod fod rhaid iddyn nhw ennill pob gêm, i bob pwrpas, er mwyn cymhwyso o’r grŵp.

Ar ôl galw’n gywir a batio, ychwanegodd James Coles (59) a Fynn Hudson-Prentice (66) gyfanswm o 113 mewn pymtheg pelawd i osod y seiliau ar ôl dechrau digon araf gan Ward a Tom Haines ar frig y batiad.

Ond fe wnaethon nhw gyflymu a sgorio 50 oddi ar y cyfnod clatsio cyn colli momentwm wrth golli Ward am 35 oddi ar 32 o belenni pan gafodd ei redeg allan.

Gyda’r llain yn araf, manteisiodd Morgannwg ar yr amodau a bowlio 29 pelawd o sbin.

Roedd Sussex eisoes mewn trafferthion ar 142 am bump ar ôl 31 pelawd ond doedden nhw ddim yn gallu gwneud digon i adfer y sefyllfa yn erbyn bowlio digon cadarn Morgannwg.

‘Cau’r gêm allan’

“Fe wnaeth y bartneriaeth fawr honno rhwng Colin Ingram ac Eddie Byrom ein sefydlu ni’n wych,” meddai’r prif hyfforddwr David Harrison.

“Ar ôl colli Tom Bevan yn gynnar, fe wnaeth y ffordd roedd y ddau foi wedi amsugno’r pwysau, asesu’n dda iawn a chyfathrebu wedi ein paratoi ni ar gyfer y fuddugoliaeth.

“Roedden ni’n ymwybodol fod y llain wedi cael ei defnyddio o’r blaen.

“Roedden ni’n awyddus i dynnu Prem Sisodiya i mewn gan nad oedd e wedi chwarae, ac ro’n i’n meddwl bod y tri throellwr wedi chwarae’n dda iawn, yn enwedig Kiran Carlson.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cau’r gêm allan yn dda iawn gyda’r bêl.

“Doedd y pelawdau olaf hynny ddim wedi mynd am lawer.

“Roedd y perfformiad wedi plesio’n fawr.”