Cafodd dwy record fawr eu torri neithiwr (nos Lun, Awst 14), wrth i dîm criced merched y Tân Cymreig guro’r Trent Rockets.
Sgoriodd y capten Tammy Beaumont 118 oddi ar 61 o belenni, sef y sgôr uchaf erioed yn y Can Pelen i dîm merched neu ddynion, wrth i’w thîm gyrraedd 181 am dair, y cyfanswm uchaf erioed yn y twrnament gan guro 166 Southern Brave ddwy flynedd yn ôl.
Mae sgôr Beaumont yn rhagori ar ymdrechion Will Jacks (108) i’r Oval Invincibles.
Dyma’r tro cyntaf hefyd i ferch sgorio canred yn y twrnament, a dim ond y trydydd tro dros gêm y dynion a’r merched i fatiwr sgorio canred.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Tân Cymreig i frig y tabl unwaith eto, wrth iddyn nhw lygadu lle ymhlith y tri uchaf.
Wrth i’r Trent Rockets gwrso, tarodd Bryony Smith 48 oddi ar 21 o belenni ond dim ond 140 am bump sgoriodd ei thîm yn y pen draw.
Gêm y dynion
Yng ngêm y dynion, cododd y Trent Rockets oddi ar waelod y tabl gyda buddugoliaeth gyffrous dros dîm dinesig Caerdydd.
Cipiodd John Turner un wiced am 22 wrth amddiffyn cyfanswm ei dîm, wrth i Colin Munro daro 66 oddi ar 35 o belenni i osod y seiliau ar ôl i’w dîm lithro i 40 am bedair ar un adeg cyn cyrraedd 152 am chwech.
Mae’r canlyniad yn gryn ergyd i obeithion y Tân Cymreig o gyrraedd y tri uchaf a chymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol.