Mae’r chwaraewr amryddawn Dan Douthwaite yn dychwelyd i garfan griced Morgannwg ar gyfer y gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mercher, Awst 16) yn y gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Metro Bank.

Mae e wedi cael ei ryddhau o’r Can Pelen gan y Tân Cymreig ar ôl gwella o anaf i’w ochr, er nad oedd e wedi chwarae’r un gêm.

Gyda thair gêm grŵp yn weddill, mae Morgannwg yn bumed yn y tabl, un pwynt yn unig y tu ôl i Swydd Northampton, sy’n ail.

Daw’r gêm hon yn fuan ar ôl buddugoliaeth Morgannwg o bedair wiced dros Sussex yn Hove, yn dilyn hanner canred yr un i Colin Ingram ac Eddie Byrom, a phedair wiced i Zain-ul-Hassan am 25, ei ffigurau gorau erioed.

Mae Swydd Gaerloyw un pwynt a dau safle uwchlaw Morgannwg ar ôl curo Gwlad yr Haf yn eu gêm ddiwethaf.

Gemau’r gorffennol

Yn ôl y prif hyfforddwr David Harrison, mae gan Forgannwg “dair gêm fawr i ddod”, ac mae’n dweud bod angen dwy fuddugoliaeth er mwyn cymhwyso.

Mae’n gyfartal 3-3 o ran y chwe gêm ddiwethaf rhwng y ddwy sir.

Daeth buddugoliaethau Morgannwg yn 2016 (o 52 rhediad), 2017 (o 18 rhediad) ac yn 2019 (o 74 rhediad).

Roedd y Saeson yn fuddugol o saith rhediad ac o ddwy wiced 2013, ac o wyth wiced yn 2018.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), B Kellaway, A Gorvin, T Bevan, S Northeast, R Smith, Zain-ul-Hassan, W Smale, P Sisodiya, J McIlroy, A Horton, C Ingram, T van der Gugten, D Douthwaite, E Byrom

Carfan Swydd Gaerloyw: J Bracey (capten), Zaman Akhter, Anwar Ali, C Dent, Zafar Gohar, J Phillips, O Price, T Price, J Shaw, T Smith, J Taylor, G van Buuren, P van Meekeren, B Wells

Sgorfwrdd