Jac Morgan fydd capten tîm rygbi Cymru eto ddydd Sadwrn (Awst 19) wrth iddyn nhw herio De Affrica yng Nghaerdydd.

Mae Warren Gatland wedi dewis Alex Curthbert i ddechrau ar yr asgell, Johnny Williams yn y canol, a Kieran Hardy fel mewnwr am y tro cyntaf yn ystod ymgyrch yr haf.

Dan Lydiate ac Aaron Wainwright fydd yn ymuno â Jac Morgan yn y rheng ôl, a bydd Elliot Dee yn dechrau gêm am y tro cyntaf yn ystod yr ymgyrch.

Mae Teddy Williams a Cai Evans ymhlith yr eilyddion, ac mae’n bosib y bydd y ddau’n ennill eu capiau cyntaf dros eu gwlad.

Bydd Warren Gatland yn gobeithio am fuddugoliaeth yn Stadiwm y Principality ar ôl diwedd gwael i’r gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham wythnos ddiwethaf, pan gollodd Cymru o 19-17.

‘Adeiladu dyfnder’

Dywedodd y Prif Hyfforddwr bod y paratoadau wedi mynd yn dda a’u bod nhw’n “falch iawn” efo’r garfan gyfan.

“Rydyn ni’n trio adeiladu dyfnder o fewn y tîm ac mae’r awyrgylch wedi bod yn wych,” meddai Warren Gatland.

“Yn yr ychydig gemau cyntaf roedd pa mor gorfforol oedd y tîm yn fy mhlesio, a’r ffordd roedden ni’n amddiffyn.

“Mae yna dipyn o bethau i weithio arnyn nhw o ran cywirdeb.

“Rydyn ni wedi dysgu lot o’r ail gêm yn erbyn Lloegr a gobeithio y gallwn roi hynny ar waith yn erbyn De Affrica.

“Rydyn ni’n disgwyl hyder gan Dde Affrica, a thîm corfforol. Dydyn nhw ddim yn gwneud llawer o gamgymeriadau. Mae ganddyn nhw dîm profiadol iawn.

“Ond mae gennym ni gyfle gwych i fynd allan o flaen torf gartref a chynhyrchu rhai o’r pethau da wnaethon ni yn ystod y ddwy gêm yn erbyn Lloegr.

“Rydyn ni angen sicrhau ein bod ni’n chwarae am 80 munud a chadw ein cywirdeb am 80 munud.”

Tîm Cymru

15. Liam Williams, 14. Alex Cuthbert, 13. Mason Grady, 12. Johnny Williams, 11. Rio Dyer, 10. Dan Biggar, 9. Kieran Hardy, 1. Corey Domachowski, 2. Elliot Dee, 3. Keiron Assiratti, 4. Ben Carter, 5. Will Rowlands, 6. Dan Lydiate, 7. Jac Morgan, 8. Aaron Wainwright

Eilyddion

16. Sam Parry, 17. Nicky Smith, 18. Henry Thomas, 19. Teddy Williams, 20. Taine Basham, 21. Tomos Williams, 22. Max Llewellyn, 23. Cai Evans