Cipiodd Ben Kellaway, y troellwr ifanc o Gasnewydd, dair wiced am 47 er i Forgannwg golli o bum wiced yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghwpan Metro Bank yng Nghaerdydd.
Roedd y sir Gymreig yn mynd i mewn i’r gêm gan wybod fod rhaid iddyn nhw ennill o leiaf ddwy o’r tair gêm sy’n weddill er mwyn cymhwyso ar gyfer y rowndiau olaf.
Ond dim ond dau gyfraniad o bwys gafwyd gyda’r bat, gyda’r agorwr Eddie Byrom yn sgorio 60 ar ôl partneriaeth agoriadol o 50 gyda Sam Northeast, a’r capten Kiran Carlson yn taro 59 fel rhan o bartneriaeth o 109 gyda Byrom.
Er gwaethaf tymor lle dydy’r bowlio ddim wedi bod yn ddigon da o bell ffordd, y batio oedd ar fai y tro hwn wrth golli wyth wiced ola’r batiad am 49 rhediad, gyda’r Cymro ifanc Kellaway yn perfformio orau gyda’r bêl.
Ar ddiwrnod da i’r troellwyr, cipiodd Graeme van Buuren dair wiced am 41 i’r ymwelwyr, gyda dwy wiced yr un hefyd i’r troellwyr llaw chwith eraill Zafar Gohar a Tom Smith, gyda’r bowliwr cyflym Paul van Meekeren yn cipio dwy hefyd ac roedd un i Tom Price.
Brawd Tom Price, Ollie, serennodd gyda’r bat gan sgorio 109 heb fod allan oedd yn gwbl allweddol yn y pen draw.
Dechrau’n gryf cyn llithro
Dechrau digon pwyllog gafodd Morgannwg ar ôl penderfynu batio, gyda Sam Northeast yn cymryd y flaenoriaeth ac yn cael cefnogaeth gadarn Eddie Byrom yn ystod y deg pelawd agoriadol.
Cyrhaeddon nhw 45 heb golli wiced, ac yn bwysicach, doedden nhw ddim wedi rhoi’r un wrth icyfle i’r gwrthwynebwyr yn ystod y cyfnod clatsio cyntaf.
Ond wrth i’r cyfyngiadau maesu gael eu llacio, talodd gwaith caled bowlwyr Swydd Gaerloyw ar ei ganfed, wrth i Paul van Meekeren gipio dwy wiced mewn pelawdau olynol.
Sam Northeast oedd y batiwr cyntaf allan wrth iddo fe fachu a rhoi daliad i’r wicedwr James Bracey am 32, cyn i Colin Ingram roi daliad isel i Ollie Price yn y slip am bump wrth i Forgannwg lithro i 59 am ddwy ar ôl 14.4 o belawdau.
Pan ddaeth y capten Kiran Carlson i ymuno â’r agorwr Eddie Byrom, fe lwyddon nhw i sefydlogi’r batiad ar ôl cyfnod tawel, ac fe aeth Byrom yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred am yr ail waith yn y gystadleuaeth, gyda’r capten yn dynn ar ei sodlau wrth i Forgannwg gyrraedd 158 am ddwy ar ôl 30 pelawd yn sgil partneriaeth o gant rhwng y ddau.
Ond gyda diwedd y bartneriaeth honno, roedd y rhod yn dechrau troi o blaid yr ymwelwyr, gyda Byrom yn gyrru i lawr corn gwddf Chris Dent ar ochr y goes oddi ar fowlio Tom Price, cyn i Carlson gael ei ddal gan y troellwr llaw chwith Graeme van Buuren oddi ar ei fowlio’i hun i adael Morgannwg yn 185 am bedair ar ôl 34 pelawd.
Collodd Morgannwg chwe wiced wedyn am 32 rhediad mewn 12.1 pelawd, gyda Tom Smith yn taro coes Ben Kellaway o flaen y wiced, Dan Douthwaite yn ergydio’n wyllt a chael ei ddal ar ymyl y cylch gan Ben Wells, Zain ul-Hassan yn cael ei stympio gan James Bracey oddi ar fowlio Zafar Gohar, Timm van der Gugten yn cael ei fowlio gan Graeme van Buuren, ac Alex Horton yn cael ei fowlio gan Zafar Gohar.
Daeth y batiad i ben ar 217 mewn 46 pelawd pan gafodd Prem Sisodiya ei ddal gan van Buuren oddi ar ei fowlio’i hun.
Cymro ifanc yn serennu gyda’r bêl
Wrth geisio amddiffyn sgôr cymharol isel, taniodd bowlwyr Morgannwg o’r dechrau’n deg wrth i Jamie McIlroy waredu Chris Dent, gafodd ei ddal oddi ar ei goesau gan Sam Northeast i adael y Saeson yn bump am un yn yr ail belawd.
Brwydrodd yr ymwelwyr yn ôl yn y cyfnod clatsio cyntaf fel eu bod nhw’n 44 am un ar ôl deg pelawd, gyda James Bracey ac Ollie Price yn edrych yn ddigon cyfforddus cyn i Bracey gael ei fowlio gan y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya am 27 yn niwedd yr unfed belawd ar bymtheg ar lain oedd yn cynnig tipyn o gefnogaeth i’r troellwyr.
Cyrhaeddodd Ollie Price ei hanner canred ar ddiwedd yr ail belawd ar hugain, ac erbyn hynny roedd ei dîm yn 94 am ddwy, ond wrth i Forgannwg droi at y troellwr Ben Kellaway, bowliodd hwnnw Ben Wells gyda’i bumed pelen i adael yr ymwelwyr yn 102 am dair yn niwedd y bedwaredd belawd ar hugain.
Ychwanegodd Ollie Price a Graeme van Buuren 46 am y bedwaredd wiced, cyn i Kellaway gipio dwy wiced mewn pelawdau olynol, gan fowlio van Buuren cyn i Colin Ingram ddal Jack Taylor wrth yrru’n syth ar ochr y goes i adael ei dîm yn 160 am bump.
Wrth i Ollie Price gyrraedd ei ganred gydag ergyd chwech oddi ar 107 o belenni ym mhelawd rhif 44, ar ôl taro 11 pedwar, roedd Swydd Gaerloyw’n ymlwybro tua’r nod unwaith eto, ac roedd angen 16 rhediad yn unig o’r chwe phelawd olaf.
Daeth y rheiny’n gymharol hawdd i’r Saeson, wrth iddyn nhw selio’r fuddugoliaeth gyda 3.5 pelawd yn weddill.
‘Arwyddion gwych’
Ar ddiwedd y gêm, fe wnaeth Kiran Carlson, capten Morgannwg, ganu clodydd Ben Kellaway, gan ddweud bod ei berfformiadau diweddar yn “arwyddion gwych” o’r hyn sydd i ddod yn y dyfodol.
“Mae e’n ddarganfyddiad gwych – gyda’r bat, y bêl ac yn y maes, mae e’n wych a bydd e’n parhau i wella o hyd.
“Mae ganddo fe’r sgiliau a’r cymeriad i chwarae ar y lefel uchaf yn nhermau criced dosbarth cyntaf.
“Mae’n le gwych i fod fel clwb pan fo gyda chi foi ifanc yn torri drwodd ac er nad oedd y canlyniad wedi mynd o’n plaid ni a’r gystadleuaeth ddim yn mynd yn ôl y cynllun, dw i’n meddwl bod y ffaith ei fod e wedi torri drwodd ac yn perfformio’n dda iawn yn ticio bocs mawr i ni.
“Yn y gystadleuaeth yma, rydyn ni wedi gweld beth mae e’n gallu’i wneud, fod ganddo fe’r cymeriad a’r sgiliau ar gyfer criced tîm cyntaf, a gobeithio bod hyn yn fan cychwyn gyrfa hir a llewyrchus iddo fe.”