Mae Mark Jones wedi’i benodi’n hyfforddwr tîm cynta’r Gweilch, gan ganolbwyntio ar yr amddiffyn.
Mae ganddo fe gryn brofiad, wedi iddo weithio yn Seland Newydd gyda’r Crusaders oedd wedi ennill tlws Super Rugby Aotearoa yn 2020.
Mae e hefyd wedi gweithio gyda Rygbi Gogledd Cymru, y Scarlets, Namibia, Caerwrangon ac fel hyfforddwr ymosod gyda Chymru yn ystod ymgyrch Chwe Gwlad 2013.
Cyffro
“Alla i ddim aros i gael dechrau,” meddai Mark Jones.
“Mae grŵp talentog o fois yma, gyda sawl un ifanc addawol dw i eisoes wedi cael y pleser o weithio gyda nhw.
“Dw i wir wedi cyffroi o gael y cyfle i helpu i yrru strategaethau amddiffynnol y Gweilch, a dw i’n edrych ymlaen at gyfrannu lle bynnag y galla i tuag at y tîm gorau y gall fod.”
‘Amhrisiadwy’
Yn ôl Toby Booth, prif hyfforddwr y Gweilch, bydd profiad Mark Jones yn “amhrisiadwy”.
“Fe wnaeth ei gyfnod yn hyfforddwr amddiffyn y Crusaders ddal ein llygad,” meddai.
“Mae’r amddiffyn yn faes allweddol ar gyfer gwelliant i ni, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda Mark i wella rhan yma ein gêm.
“Roedd profiad diweddar Mark yn brif hyfforddwr tîm dan 20 Cymru yn sicr yn beth positif eto i ni.
“Mae ei ymroddiad i ddatblygu talent ifanc yn alinio’n hawdd iawn gyda’n strategaeth hirdymor fel rhanbarth a staff hyfforddi.”
‘Brwdfrydedd’
“Fe wnaeth Mark waith gwych yn brif hyfforddwr dros dro y rhaglen dan 20,” meddai Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad dros dro Undeb Rygbi Cymru.
“Fe wnaeth ei frwdfrydedd a’i sylw i fanylion danlinellu’r hyn oedd yn ganlyniad ardderchog ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd dan 20 yn Ne Affrica.
“Dw i’n gwybod fod Mark wedi gwerthfawrogi’r cyfle i weithio gyda’r rhaglen oedrannau, a’i fod e wedi mwynhau gweithio gyda grŵp talentog o chwaraewyr a staff cynorthwyol ymroddedig.
“Dw i wrth fy modd ei fod e wedi’i benodi’n hyfforddwr tîm cyntaf gyda’r Gweilch, yn dilyn o’i rôl gyda’r tîm dan 20.
“Mae’n gyfle gwych dw i’n siŵr y bydd e’n ei gofleidio â’i ymroddiad a’i egni arferol, ac mae’n wych gallu cadw dyn â’i doniau fe mewn rygbi yng Nghymru.”