Ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd fis nesaf, pan fydd ei dîm yn herio Cymru, mae Eddie Jones, prif hyfforddwr Awstralia, wedi lladd ar wasg ei famwlad.

Mewn cynhadledd, fe ddywedodd fod y wasg yn “negyddol”.

Roedd yn ymateb i gwestiynau am hepgor Michael Hooper a Quade Cooper o’r garfan, ac ymddiswyddiad yr hyfforddwr ymosod Brad Davis yr wythnos hon.

Mae adroddiadau bod Quade Cooper wedi gwrthod siarad ag Eddie Jones ers cyhoeddi’r garfan.

Yn ôl Eddie Jones, mae Brad Davis wedi ymddiswyddo “am resymau teuluol”.

Bydd Cymru’n herio Awstralia yn Lyon ar Fedi 24.

Dywedodd fod y wasg “yn rhan o broblem” rygbi yn Awstralia, cyn diolch i’r gohebwyr am “y gynhadledd waethaf dw i wedi’i chael mewn rygbi ar draws y byd”.

“Da iawn – y gwaethaf dw i wedi’i gweld,” meddai gan eu cyhuddo nhw o fod yn “negyddol am bopeth”.

“Rydyn ni’n mynd i ffwrdd i Gwpan y Byd, ac rydych chi’n credu na allwn ni ennill.

“Dywedwch wrthym ein bod ni’n ofnadwy, ac fe wnawn ni eich profi chi’n anghywir.

“Galla i deimlo’r negatifrwydd – rhaid i fi ymolchi oherwydd mae’n glynu i fi.

“Os nad oes gyda chi rywbeth positif i’w ddweud, plis peidiwch â gofyn.”

Cyfnod cythryblus

Mae’n debyg fod Eddie Jones eisoes yn teimlo’r pwysau cyn camu ar yr awyren.

Mae Awstralia wedi colli pob un o’u pedair gêm ers iddo fe gael ei ailbenodi ym mis Ionawr.

Mae e wedi enwi’r garfan leiaf profiadol ar gyfer Cwpan y Byd ers dechrau’r oes broffesiynol, ac mae’r wasg yn Awstralia wedi cymharu’r garfan ag “ailforgeisi eich tŷ, gwerthu popeth yn y sied, a mynd â’ch holl arian i’r casino am gynnig untro ar goch neu ddu”.

Gofynnodd un gohebydd beth oedd cryfderau Awstralia, ac fe ymatebodd Eddie Jones gan ddweud “dim byd, mêt – rydyn ni’n ofnadwy”.

“Dw i’n dwlu ar y negatifrwydd yma – mae’n wych,” meddai.

“Dw i’n dwlu arno fe, yn dwlu arno fe – cadwch e i fynd, cadwch e i fynd, cadwch e i fynd, cadwch e i fynd, cadwch e i fynd.”

Rhoddodd e siars ar ddiwedd y gynhadledd i’r gohebwyr fwrw eu hunain yn eu hwynebau.