Mae Ollie Cooper yn teimlo bod ganddo fe “dipyn i’w ddysgu a’i ddangos” yng nghrys tîm pêl-droed Abertawe.

Fe fu’n siarad â’r wasg ar drothwy’r gêm gartref yn erbyn Coventry ddydd Sadwrn (Awst 19), gyda’r Elyrch wedi cael un gêm gyfartal ac wedi colli’r llall yn y Bencampwriaeth hyd yma.

Daeth ymddangosiad cynta’r chwaraewr canol cae yng nghrys Abertawe y tymor diwethaf, gan sgorio’i gôl gyntaf – un o chwe gôl mewn 44 o gemau.

Roedd hynny ar ôl treulio tymor 2021-22 ar fenthyg yng Nghasnewydd.

Fe deithiodd i Qatar gyda Chymru ar gyfer Cwpan y Byd y gaeaf diwethaf, ac fe gafodd ei enwi yn y garfan ddechrau’r flwyddyn gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Latfia ym mis Mawrth.

“Roeddwn i wedi dod i mewn o gyfnod ar fenthyg yng Nghasnewydd, ac roedd llawer i’w ddysgu o hyd, ond yn enwedig wrth fynd o’r gynghrair honno i gamu i fyny i’r Bencampwriaeth,” meddai.

“Mae’n fater o addasu i ofynion chwarae dydd Sadwrn, dydd Mawrth.

“Dw i dal yn teimlo bod gyda fi dipyn i’w gynnig.

“Mae cymaint o le i wella eto.

“Rhaid i fi ddangos i’r rheolwr, y cefnogwyr, pawb.

“Rhaid i fi fod mewn sefyllfa i allu gwneud hynny.”

A yw’n llygadu lle yng ngharfan Cymru eto, felly?

“Y cyfan alla i ei wneud yw canolbwyntio ar bêl-droed i fy nghlwb,” meddai.

Dechrau o’r dechrau?

Ac yntau wedi profi ei hun unwaith i’r cyn-reolwr Russell Martin, fe fydd yn rhaid i Ollie Cooper ddarbwyllo’r rheolwr newydd Michael Duff ei fod e’n haeddu ei le yn y tîm y tymor hwn.

Ond ychydig iawn sydd wedi newid ers i’r rheolwr newydd ddod i mewn, yn ôl y chwaraewr ifanc.

“Mae hi bob amser yn mynd i fod yn wahanol pan ddaw rheolwr newydd i mewn,” meddai.

“Yn amlwg, rydych chi eisiau chwarae mewn ffordd ychydig yn wahanol i’r rheolwr blaenorol.

“Rhaid i fi wneud beth bynnag alla i er mwyn aros yn y tîm.

“Mae’n fater o weithio bob dydd ar y cae ac oddi arno.”

Wynebau newydd

Gyda nifer o wynebau newydd yn ymuno â’r garfan ar ddechrau’r tymor hwn, mae cyfnod o addasu’n anochel.

Ond yn ôl Ollie Cooper, mae’r chwaraewyr wedi ymgartrefu’n gyflym.

“Maen nhw wedi ffitio i mewn yn dda gyda’r garfan,” meddai.

“Mae gyda ni griw da beth bynnag.

“Maen nhw’n barod wedi cael eu hunain yn y tîm.

“Y cyfan rydych chi ei eisiau yw i’r bois hynny ddod i mewn, a chyhyd â bod ganddyn nhw’r un gwerthoedd â ni maen nhw’n mynd i ffitio i mewn.

“Mae llawer o newid a llawer o addasu, ond rydyn ni’n symud yn araf.

“Roedd yr ugain munud olaf yn erbyn West Brom wir yn dangos beth allwn ni ei wneud.”

Hunaniaeth newydd?

Fe fu cryn dipyn o sôn dros y blynyddoedd am hunaniaeth unigryw’r Elyrch, a’r hunaniaeth honno wedi denu sylw iddyn nhw ledled Ewrop pan oedden nhw yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ydy’r hunaniaeth yn dal yno, a beth yw’r gwahaniaethau rhwng dulliau Russell Martin a Michael Duff wrth weithredu’r hunaniaeth honno, felly?

“Yn amlwg mae yna wahaniaeth,” meddai.

“Ond dydy [Michael Duff] ddim eisiau dileu’r hunaniaeth sydd gyda ni beth bynnag.

“Maen nhw’n gallu gweld bod gyda ni griw o chwaraewyr sy’n chwaraewyr technegol, yn seiliedig ar gadw meddiant.

“Mae’n fater o drwsio a cheisio gwella pethau.

“Dw i ddim yn credu bod gwahaniaeth enfawr.

“Mae yna ddarnau sy’n parhau i wella.

“Mae’n fater o roi opsiynau gwahanol i ni er mwyn creu a sgorio goliau.”

Dyfodol dau allweddol

Er bod nifer o wynebau newydd yn y garfan y tymor hwn, mae ansicrwydd o hyd am ddyfodol yr ymosodwr Joel Piroe a’r capten Matt Grimes.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fyddan nhw’n aros, a’r gred yw fod clybiau wedi gwneud cynigion i’w prynu nhw.

Yn ôl Ollie Cooper, bydd y ffenest drosglwyddo bresennol yn un llwyddiannus os ydyn nhw’n llwyddo i ddal eu gafael ar y ddau chwaraewr allweddol.

“Os ydyn ni’n cwblhau’r ffenest hon a bod gyda ni’r chwaraewyr hynny, byddwn ni i gyd yn hapus iawn, iawn,” meddai.

“Dw i’n credu ein bod ni’n ceisio cloi’r ddau chwaraewr i ffwrdd fel na fyddan nhw’n mynd i unman!

“Ond dyna realiti pêl-droed.

“Gall y ddau ohonyn nhw reoli gêm, wrth gwrs fod clybiau’n mynd i fod â diddordeb ynddyn nhw.”