Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi denu Manolis Siopis ar gytundeb tair blynedd.

Roedd y chwaraewr canol cae amddiffynnol rhyngwladol 29 oed ar gael yn rhad ac am ddim ar ôl gadael clwb Trabzonspor yn Nhwrci.

Dechreuodd ei yrfa gydag Olympiacos yng Ngroeg, a chafodd ei enwi yn nhîm y flwyddyn y gynghrair ddwywaith, gan ennill Uwch Gynghrair Twrci a’r Super Cup gyda Trabzonspor.

Dydy e ddim wedi chwarae ers i Roeg golli o 1-0 yn erbyn Ffrainc mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2024 yn Stade de France.

Embargo ddim am atal Caerdydd

Mae Caerdydd yn destun embargo trosglwyddiadau tan fis Ionawr nesaf.

Mae hynny’n golygu nad oes modd iddyn nhw brynu chwaraewyr newydd, ond maen nhw’n gallu eu denu nhw ar fenthyg neu ar drosglwyddiadau rhad ac am ddim.

Mae’r Adar Gleision wedi denu saith o chwaraewyr dros yr haf hyd yn hyn, ac mae’r rheolwr Erol Bulut yn awyddus i ddenu rhagor cyn i’r ffenest drosglwyddo gau ar Fedi 1.