Mae Matt Grimes, capten tîm pêl-droed Abertawe, wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r clwb am ddwy flynedd arall i’w gadw gyda’r clwb tan o leiaf 2027.
Roedd ei gytundeb blaenorol yn rhedeg tan haf 2025.
Daw’r cytundeb rai misoedd ar ôl iddo fe chwarae gêm rhif 250 i’r clwb, ac yng nghanol cryn ddyfalu am ei ddyfodol.
Roedd Southampton a Russell Martin, cyn-reolwr Abertawe, yn awyddus i’w ddenu yno, ac roedd gan Leeds ddiddordeb hefyd, yn ôl adroddiadau.
Bydd Grimes wedi bod gyda’r Elyrch am ddeuddeg mlynedd pan fydd ei gytundeb yn dirwyn i ben ymhen pedair blynedd, ar ôl iddo symud o Gaerwysg yn 2015.
Pan ymunodd e â’r Elyrch, bu’n rhaid i’r chwaraewr canol cae ifanc fod yn amyneddgar, gan dreulio cyfnodau ar fenthyg yn Leeds, Blackburn a Northampton.
Ond daeth ei gyfle eto o dan reolaeth Graham Potter yn 2018-19, ac fe ddaeth yn gapten yn 2019 o dan reolaeth Steve Cooper ac mae e bellach wedi arwain y tîm bron i 200 o weithiau.
Prin yw’r gemau mae e wedi’u methu dros y pum tymor diwethaf, ac fe sgoriodd e gôl hollbwysig yn y gemau ail gyfle yn erbyn Barnsley yn 2021 wrth i’r Elyrch deithio i Wembley ar gyfer y rownd derfynol.