Mae 500 o ferched wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau gafodd eu trefnu gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystod Cwpan y Byd y Merched.

Cafodd merched rhwng pedair ac unarddeg oed gyfle i gymryd rhan mewn gwyliau cyfeillgar ledled y wlad.

Mae Gwyliau Huddle United yn rhoi cyfle i nifer o blant gymryd rhan mewn gemau pêl-droed am y tro cyntaf.

Cafodd y gweithgareddau eu trefnu drwy bartneriaeth rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a FIFA, gyda chefnogaeth gan Gronfa Datblygu Pêl-droed Menywod FIFA.

Fe wnaeth y Gymdeithas bartneru â Roguemont School yng Nghasnewydd, Cymdeithas Bêl-droed Dinbych y Pysgod, Menywod Dinas Caerdydd, Aura Sir y Fflint, Clwb Pêl-droed Bae Colwyn, a Chlwb Pêl-droed Merched Talgarth.

‘Llwyddiant mawr’

Wrth siarad yn ystod sesiynau Huddle, dywedodd hyfforddwr Menywod Dinas Caerdydd ei bod hi wrth ei bodd gweld y merched yn chwarae.

“Mae hi wastad yn bwysig eu bod nhw’n teimlo bod croeso iddyn nhw fel eu bod nhw’n gallu dod yn ôl am fwy,” meddai Emma Thompson.

“Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda iawn efo merched yn dod i’r Huddle ac yna niferoedd uchel yn dod yn rhan o glybiau.

“Ar ôl dod drwy’r sesiynau Huddle gyda ni ac yna’u gweld nhw dal i chwarae, mae’n teimlo fel llwyddiant mawr.

“Rydyn ni wastad eisiau mwy o ferched yn chwarae ac yn mwynhau’r gêm.”

‘Hygyrch a hwyl’

Dywed Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod a Merched yng Nghymdeithas Bêl-droed Cymru, ei bod hi “mor bwysig” eu bod nhw’n rhoi cymaint o gyfleoedd â phosib i ferched ifanc chwarae pêl-droed.

“Mae’n rhaid gwneud pêl-droed yn hygyrch ac yn hwyl ac yn ysbrydoledig i’r rhai sydd erioed wedi chwarae o’r blaen,” meddai.

“Mae llwyddiant Huddle hyd yn hyn wedi bod yn arbennig, ond ein nod ydy trio cael mwy fyth o ferched yn chwarae pêl-droed a chynyddu’r twf o 89% mewn merched sydd wedi dechrau cymryd rhan yng Nghymru dros y bum mlynedd ddiwethaf eto.”

Bydd yr ŵyl Huddle United nesaf yn digwydd yng Nghlwb Pêl-droed Rhaglan ddydd Sul (Awst 20), a bydd mwy o ddyddiadau’n cael eu cadarnhau ar gyfer mis Medi yn fuan.