Alun Wyn Jones yn ymarfer gyda Chymru cyn Cwpan y Byd llynedd (llun: David Davies/PA)
Mae capten y Gweilch Alun Wyn Jones wedi arwyddo estyniad i’w gytundeb deuol er mwyn ei gadw yng Nghymru.
Roedd sôn bod nifer o glybiau o Loegr a Ffrainc ar ôl y clo 30 oed, ond fe gyhoeddodd ei ranbarth ei fod arwyddo cytundeb newydd “hir dymor” i aros yn Stadiwm Liberty.
Alun Wyn Jones yw’r trydydd enw mawr i ailarwyddo cytundeb deuol gyda’r Gweilch ac Undeb Rygbi Cymru’n ddiweddar, yn dilyn penderfyniadau Dan Biggar a Rhys Webb i wneud yr un peth.
Cyhoeddi carfan Cymru
Mae disgwyl i’r clo, sydd wedi ennill 94 cap dros ei wlad yn ogystal â chwarae 197 gwaith dros ei ranbarth, gael ei enw yng ngharfan Cymru heddiw ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Rydw i’n falch iawn o fod yn gallu arwyddo cytundeb deuol er mwyn parhau i chwarae dros Gymru a’r Gweilch,” meddai Alun Wyn Jones.
“Rydw i’n ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn rhan o hyn am roi amser i mi wneud y penderfyniad iawn ar gyfer fy hunan, fy nheulu a fy ngyrfa.
“Nawr bod fy nyfodol wedi’i sortio fe allai barhau i gynrychioli’r Gweilch, fy rhanbarth gartref, a chystadlu am le yn nhîm Cymru.”