Abertawe 1–0 Watford                                                                    

Roedd peniad hanner cyntaf y capten, Ashley Williams, yn ddigon i Abertawe wrth iddynt guro Watford ar y Liberty nos Lun, i godi o safleoedd disgyn yr Uwch Gynghrair.

Gyda’r rheolwr newydd, Francesco Guidolin, yn gwylio o’r eisteddle cafodd yr Elyrch y gorau o Watford mewn gêm gymharol ddi fflach.

Ychydig llai na hanner awr oedd wedi mynd pan gododd Williams yn uchel i benio croesiad cywir Ki Sung-Yueng heibio i Heurelho Gomes yn y gôl.

Watford a gafodd y cyfleoedd gorau wedi hynny ond methodd Miguel Britos a Manuel Jurado ag unioni i’r ymwelwyr wrth i Williams a’i dîm gadw eu gafael ar y llechen lân.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi Abertawe allan o safleoedd y gwymp, dros Newcastle i’r ail safle ar bymtheg yn y tabl.

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Fernandez, Williams, Taylor, Britton, Cork, Ki Sung-yueng (Amat 87′), Sigurdsson, Routledge (Barrow 66′), Ayew (Gomis 82′)

Gôl: Williams 27’

Cardiau Melyn: Britton 62’, Sigurdsson 90’

.

Watford

Tîm: Gomes, Nyom (Paredes 74′), Cathcart, Britos, Aké, Capoue, Behrami (Oularé 87′), Watson, Jurado, Ighalo, Deeney

Cardiau Melyn: Jurado 22’. Nyom 33’

.

Torf: 20,430