Casnewydd 1–2 Blackburn
Mae Casnewydd allan o’r Cwpan FA ar ôl colli yn erbyn deg dyn Blackburn ar Rodney Parade nos Lun.
Sicrhaodd gôl wych Mark Byrne fod yr Alltudion yn gyfartal ar yr egwyl ond daeth Blackburn â’r seren, Jordan Rhodes, i’r cae ar gyfer yr ail hanner ac roedd gôl yr Albanwr chwarter awr o’r diwedd yn ddigon i roi’r tîm o’r Bencampwriaeth yn y bedwaredd rownd.
Ni chafodd Casnewydd y dechrau gorau wrth i Scott Barrow ildio cic o’r smotyn gynnar am drosedd ar Ben Marshall. Cododd Marshall ar ei draed i gymryd y gic ac roedd yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond wyth munud.
Ddau funud yn unig yn ddiweddarach roedd yr ymwelwyr i lawr i ddeg dyn yn dilyn tacl fudur Chris Brown ar Medy Elito ac roedd yn rhaid i Blackburn chwarae dros wyth deg munud gyda deg dyn.
Casnewydd oedd y tîm gorau o hynny nes yr egwyl a bu rhaid i Jason Steele wneud arbediad da i atal cynnig da Byrne ar y foli wedi ugain munud.
Ceisiodd Byrne ei lwc o bellter eto ddeg munud yn ddiweddarach a doedd gan Steele ddim gobaith y tro hwn wrth i’r ergyd wych hedfan yn syth i’r gornel uchaf.
Bu bron i foli ddyfeisgar Connor Dymond roi’r tîm cartref ar y blaen wedi hynny ond aros yn gyfartal a wnaeth hi tan hanner amser.
Gyda Rhodes ar y cae roedd Blackburn yn well wedi’r egwyl ac fe ddaeth y gôl holl bwysig chwarter awr o’r diwedd pan beniodd y blaenwr i gefn y rhwyd o groesiad crefftus y Cymro, Tom Lawrance.
Cafodd Scott Boden gyfle euraidd i unioni pethau am yr eildro yn fuan wedyn ond peniodd groesiad Aaron Collins heibio’r postyn pan ddylai fod wedi sgorio.
Cabolbwyntio ar aros yn yr Ail Adran fydd tasg Casnewydd am weddill y tymor nawr wrth iddynt ddilyn Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd allan o’r Cwpan FA.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Holmes, Donacien, Hughes, Davies, Barrow (Green 96′), Dymond (Taylor 83′), Byrne, Elito (Owen-Evans 14′), Boden, Collins
Gôl: Byrne 30’
Cerdyn Melyn: Dymond 72’
Cerdyn Coch: Day 90+4’
.
Blackburn
Tîm: Steele, Marshall, Evans, Hanley, Spurr, Bennett (Rhodes 45′), Taylor, Lenihan, Lawrence (Conway 77′), Brown, Akpan
Goliau: Marshall [c.o.s.] 8’, Rhodes 75’
Cerdyn Melyn: Lawrance 47’
Cerdyn Coch: Brown 10’
.
Torf: 5,783