Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau eu bod nhw wedi penodi’r Eidalwr Francesco Guidolin fel rheolwr nes diwedd y tymor.

Fe fydd y rheolwr newydd yn gwylio’r tîm wrth iddyn nhw herio Watford heno gan obeithio codi allan o’r tri safle isaf yn yr Uwch Gynghrair.

Bydd Alan Curtis, sydd wedi bod yn rheoli’r tîm ers diswyddiad Garry Monk, yn parhau i gynorthwyo fel hyfforddwr y tîm.

Ond fe ddywedodd y clwb mai Guidolin fyddai â’r “gair olaf” ar ddewis y tîm.

‘Gwybodaeth helaeth’

Fe fydd cytundeb y rheolwr 60 oed yn cael ei adolygu gan y clwb ar ddiwedd y tymor, wrth i’r clwb frwydro i geisio aros yn yr Uwch Gynghrair.

“Er mai dim ond yn ddiweddar y gwnaethon ni benodi Alan Curtis nes diwedd y tymor, roedd e’n ymwybodol ein bod ni’n dal i obeithio dod â rhywun arall i mewn i gynorthwyo os oedden ni’n dod o hyd i’r person iawn,” meddai cadeirydd yr Elyrch Huw Jenkins.

“Rydyn ni’n credu mai Francesco yw’r person hwnnw. Mae ganddo record wych, yn enwedig gydag Udinese dros y blynyddoedd diwethaf.”

Ychwanegodd y cadeirydd fod gan Guidolin “wybodaeth helaeth” o chwaraewyr ar hyd a lled Ewrop, rhywbeth allai fod o ddefnydd i’r clwb dros y pythefnos nesaf wrth iddyn nhw geisio cryfhau’r garfan yn ystod ffenest drosglwyddo mis Ionawr.