(o'r chwith i'r dde) Gemma Rowland, Dyddgu Hywel, Rachel Taylor (capten) a Keira Bevan (llun: URC)
Mae chwe chwaraewr sydd heb ennill cap eto wedi cael eu henwi yng ngharfan rygbi merched Cymru o 28 ar gyfer y Chwe Gwlad.

Rachel Taylor fydd yn arwain y tîm fel capten unwaith eto wrth iddyn nhw baratoi i deithio i Ddulyn ar gyfer eu gêm gyntaf ar 6 Chwefror.

Fe fydd y twrnament hefyd yn rhan o’r ymgyrch ragbrofol i gyrraedd Cwpan y Byd yn Iwerddon yn 2017, gan ychwanegu at bwysigrwydd y gystadleuaeth i Gymru eleni.

Er mwyn cyrraedd Cwpan y Byd fe fydd yn rhaid iddyn nhw wneud yn well nag un ai’r Eidal neu’r Alban dros gyfnod y Chwe Gwlad yn 2015 a 2016.

Fe allai Alisha Butchers, Bethan Dainton, Cerys Hale, Cara Hope, Siwan Lillicrap a Rhian Nokes ennill eu capiau cyntaf dros Gymru eleni ar ôl cael eu cynnwys yn y garfan.

Carfan Merched Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

Olwyr: Keira Bevan (Gweilch / Skewen), Ffion Bowen (Gweilch / Maesteg Celtic), Bethan Dainton (Dreigiau / Bryste), Amy Day (Dreigiau / Gogledd Llandaf), Elen Evans (Scarlets / Caernarfon), Dyddgu Hywel (Scarlets / Pontyclun), Hannah Jones (Scarlets / Penybanc), Kerin Lake (Gweilch / Skewen), Rhian Nokes (Gweilch / Maesteg Celtic), Gemma Rowland (Dreigiau / Wasps), Elinor Snowshill (Dreigiau / Bryste), Adi Taviner (Gweilch / Skewen), Robyn Wilkins (Gweilch / Gogledd Llandaf)

Blaenwyr: Alisha Butchers (Scarlets / Penybanc), Melissa Clay (Gweilch / Pencoed Phoenix), Catrin Edwards (Scarlets / Gogledd Llandaf), Amy Evans (Gweilch / Skewen), Cerys Hale (Dreigiau / Pontyclun), Sioned Harries (Scarlets / Hendy-gwyn), Cara Hope (Gweilch / Pontyclun), Siwan Lillicrap (Gweilch / Skewen), Carys Phillips (Gweilch / Skewen), Shona Powell-Hughes (Gweilch / Skewen), Amy Price (Gweilch / Skewen), Rebecca Rowe (Dreigiau / Richmond), Rachel Taylor (capt, Dreigiau / Caernarfon), Sian Williams (Dreigiau / Caerwrangon), Megan York (Dreigiau / Blaenau Gwent)

Gemau Cymru

Dydd Sadwrn 6 Chwefror: Iwerddon v Cymru (Donnybrook, Dulyn – 1.00yp)
Dydd Sul 14 Chwefror: Cymru v Yr Alban (Y Gnoll, Castell-nedd – 2.00yp tbc)
Dydd Sul 28 Chwefror: Cymru v Ffrainc (The Gnoll, Castell-nedd – 2.00yp tbc)
Dydd Sadwrn 12 Mawrth: Lloegr v Cymru (Twickenham Stoop – 12.30yp)
Dydd Sul 20 Mawrth: Cymru v Yr Eidal (Y Gnoll, Castell-nedd – 2.00yp tbc)