Leon Britton
Fe fydd y chwaraewr canol cae Leon Britton yn chwarae yn ei 500fed gêm i Abertawe heno wrth iddyn nhw groesawu Sunderland i Stadiwm Liberty.
Mae sicrhau triphwynt yn hanfodol i’r Elyrch gan fod Sunderland bedwar pwynt yn unig y tu ôl iddyn nhw yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
Yn y tri isaf mae’r ymwelwyr ar ôl iddyn nhw golli pump allan o’u chwe gêm ddiwethaf.
Mae hanes o blaid tîm Alan Curtis, gan fod yr Elyrch yn ddiguro yn eu pum cyfarfyddiad diwethaf, gan ennill dwy – un yn y Liberty – a chael tair gêm gyfartal.
Daeth eu buddugoliaeth ddiwethaf dros dîm Sam Allerdyce oddi cartref ym mis Mai 2014.
Ar drothwy’r ornest, dywedodd rheolwr Abertawe, Alan Curtis: “Mae gyda ni gêm fawr nos Fercher ac rwy’n sicr y byddwn ni’n taro’n ôl.
“Fyddwn i ddim yn ei galw hi’n gêm y mae’n rhaid ei hennill ar hyn o bryd ond mae angen i ni ennill gemau’n hwyr neu’n hwyrach.
“Rydyn ni’n gwybod beth yw arwyddocâd ennill triphwynt ond mae angen i ni ei thrin hi fel unrhyw gêm arall a manteisio ar y ffaith ein bod ni gartref.”
Mae’r gic gyntaf am 7.45yh.