Gyda rygbi proffesiynol yng Nghymru’n wynebu cyfnod ansicr a streic bosib, mae un o chwaraewyr Cymru a Rygbi Caerdydd wedi cyhuddo’r awdurdodau o ddangos diffyg parch at chwaraewyr.

Mae Josh Turnbull yn un o nifer o chwaraewyr sydd wedi mynegi pryder am y sefyllfa ar y cyfryngau cymdeithasol.

Daw’r rhybudd ynghylch streic bosib wrth i Gymru baratoi i herio Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar Chwefror 25.

Mae’n un o nifer o opsiynau dan ystyriaeth, cyn i’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol gyfarfod yr wythnos nesaf, a’r gobaith yw y bydd pedwar tîm rhanbarthol Cymru’n cynnig cytundebau newydd i’w chwaraewyr cyn hynny ond dydyn nhw ddim wedi gwneud hynny ers dechrau’r flwyddyn gan nad yw eu cyllidebau wedi cael eu cymeradwyo eto.

Gyda chytundebau rhai chwaraewyr yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, mae nifer o chwaraewyr rhanbarthol wedi dechrau codi pryderon yn gyhoeddus.

Yn ôl yr Undeb, mae disgwyl i drafodaethau ynghylch cytundebau ddod i ben erbyn diwedd y mis yma.

Ond mae rhwystredigaeth y chwaraewyr yn dod yn fwyfwy amlwg, wrth i niferoedd cynyddol ohonyn nhw droi at y cyfryngau cymdeithasol.

“Hoffwn ddiolch i’r holl gefnogwyr, o ba bynnag ranbarth neu glwb rydych chi’n eu cefnogi, am roi gelyniaethau i’r naill ochr ac uno i gefnogi’r chwaraewyr, gyda ‘pharch’ – un o’r prif werthoedd mae’r gêm wedi’i hadeiladu arno cyn hired ag ydw i’n ei gofio,” meddai Josh Turnbull.

“Yr hyn mae’r Bwrdd Rygbi Proffesiynol/Undeb Rygbi Cymru wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf yw dangos diffyg parch ac empathi llwyr tuag at y chwaraewyr.”

Mae e hefyd wedi eu cyhuddo nhw o beidio ag ymgynghori ac o beidio â bod yn dryloyw.

Ymateb Undeb Rygbi Cymru

Yn ôl Undeb Rygbi Cymru, mae’r Prif Weithredwr dros dro Nigel Walker wedi cyfarfod ag aelodau carfan Cymru i egluro’r sefyllfa, yn dilyn cytundeb ar lafar am chwe blynedd i ddiogelu’r gêm broffesiynol yng Nghymru.

Dywed yr Undeb fod y Bwrdd Rygbi Proffesiynol yn cydnabod fod y sefyllfa’n gymhleth ac na fydd yr amodau i gyd yn dderbyniol iddyn nhw, ond “mae cyllidebau rygbi wedi’u hymestyn”.

Maen nhw’n dweud bod y cytundeb newydd yn golygu cap ar gyflogau ar gyfer tymor 2024-25, fydd ychydig yn is na 2023-24 wrth i hen gytundebau ddirwyn i ben.

Yn ôl Malcolm Wall, cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, mae Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau wedi bod yn talu cyflogau rhy uchel o lawer iddyn nhw fod yn gynaliadwy.

Mae’n dweud y bydd pob cytundeb presennol yn cael ei anrhydeddu cyn i’r fframwaith newydd ddod i rym, fydd yn gweld chwaraewyr yn derbyn oddeutu £100,000 y flwyddyn ar gyfartaledd, ond yn cydnabod y bydd cyflogau’n uwch yn Lloegr a Ffrainc, allai weld chwaraewyr o Gymru’n gadael unwaith eto.

“Rydyn ni’n gwybod nad ydyn ni mewn sefyllfa ddelfrydol, ond mae’n eithriadol o bwysig i’r gêm gyfan yng Nghymru ein bod ni’n cael y cam nesaf hwn yn iawn,” meddai Nigel Walker.

“Os yw’n golygu cymryd amser i wneud hynny, yna dyna sut mae’n rhaid i bethau fod.”

Dywed mai gofal tuag at chwaraewyr yw eu blaenoriaeth o hyd, ac y bydd y sefyllfa’n symud mor gyflym â phosib.