Mae’r Tân Cymreig, tîm criced dinesig Caerdydd, wedi cadarnhau’r chwaraewyr maen nhw’n eu cadw ar gyfer y Can Pelen yn ystod tymor 2023, o blith timau’r dynion a’r merched.

Bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd i Erddi Sophia am y trydydd tro eleni.

Ymhlith y sêr sy’n dychwelyd i dîm y brifddinas mae Jonny Bairstow, Ollie Pope a Tammy Beaumont, ynghyd â Hayley Matthews, David Payne, Annabel Sutherland, George Scrimshaw a Joe Clarke.

Mae 114 o chwaraewyr wedi’u cadw ar draws timau dynion a merched yr wyth dinas, sy’n golygu bod 134 o lefydd i’w llenwi cyn dechrau’r gystadleuaeth.

Bydd drafft yn cael ei gynnal, a bydd gan y Tân Cymreig wyth lle i’w llenwi yng ngharfan y dynion, fydd dan hyfforddiant Mike Hussey y tymor hwn yn dilyn ymadawiad Gary Kirsten, a nhw fydd yn cael y dewis cyntaf.

Bydd drafft yn cael ei gynnal ar gyfer cystadleuaeth y merched am y tro cyntaf, a’r Tân Cymreig fydd yn cael y dewis cyntaf, gyda nifer o sêr rhyngwladol ar gael.

Mae disgwyl cadarnhad y rhestr derfynol ar gyfer y drafft ar Chwefror 28.

Bydd y gystadleuaeth yn dechrau ar Awst 1, gyda 68 o gemau i gyd.